Llyfr Genesis 31:28
Ac na adewaist i mi gusanu fy meibion a’m merched? Gwnaethost yr awr hon yn ffol, gan wneuthur hyn.
Beibl (1620)
In The King James Version
And hast not suffered me to kiss my sons and my daughters? thou hast now done foolishly in so doing.
In Context
Cross References
Genesis 29:13A phan glybu Laban hanes Jacob mab ei chwaer, yna efe a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a’i cusanodd, ac a’i dug ef i’w dŷ: ac efe a fynegodd i Laban yr holl bethau hyn.
Genesis 31:13Myfi yw Duw Bethel, lle yr enneiniaist y golofn, a lle yr addunaist adduned i mi: cyfod bellach, dos allan o’r wlad hon, dychwel i wlad dy genedl dy hun.
Genesis 31:55A Laban a gyfododd yn fore, ac a gusanodd ei feibion a’i ferched, ac a’u bendithiodd hwynt: felly Laban a aeth ymaith, ac a ddychwelodd i’w fro ei hun.
Exodus 4:27¶ A dywedodd yr Arglwydd wrth Aaron, Dos i gyfarfod â Moses i’r anialwch. Ac efe a aeth, ac a gyfarfu âg ef ym mynydd Duw, ac a’i cusanodd ef.
Ruth 1:14A hwy a ddyrchafasant eu llef, ac a wylasant eilwaith: ac Orpa a gusanodd ei chwegr; ond Ruth a lynodd wrthi hi.
1 Kings 19:20Ac efe a adawodd yr ychen, ac a redodd ar ôl Eleias, ac a ddywedodd, Atolwg, gad i mi gusanu fy nhad a’m mam, ac yna mi a ddeuaf ar dy ôl. Ac yntau a ddywedodd wrtho, DOS, dychwel; canys beth a wneuthum i ti? º