Llyfr Genesis 31:7
A’ch tad a’m twyllodd i, ac a newidiodd fy nghyflog i ddengwaith: ond nis dïoddefodd Duw iddo wneuthur i mi ddrwg.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
6A chwi a wyddoch mai â’m holl allu y gwasanaethais eich tad.
Cross References
Genesis 31:29Mae ar fy llaw i wneuthur i chwi ddrwg; ond Duw eich tad a lefarodd wrthyf neithiwr, gan ddywedyd, Cadw arnat rhag yngan wrth Jacob na da na drwg.
Leviticus 26:26A phan dorrwyf ffon eich bara, yna deg o wragedd a bobant eich bara mewn un ffwrn, ac a ddygant eich bara adref dan bwys: a chwi a fwyttêwch, ac nis digonir chwi.
Nehemiah 4:12A phan ddaeth yr Iddewon oedd yn preswylio yn eu hymyl hwynt, dywedasant wrthym ddengwaith, O’r holl leoedd trwy y rhai y gallech ddychwelyd atom ni, y byddant arnoch chwi.
Job 19:3Dengwaith bellach y’m gwarad wyddasoch; ac nid cywilydd gennych ymgaledu i’m herbyn.
Isaiah 4:1Ac yn y dydd hwnnw saith o wragedd a ymaflant mewn un gŵr, gan ddywedyd, Ein bara ein hun a fwytawn, a’n dillad ein hun a wisgwn: yn unig galwer dy enw di arnom ni; cymer ymaith ein gwarth ni.