Llyfr Genesis 32:6
¶ A’r cenhadau a ddychwelasant at Jacob, gan ddywedyd, Daethom at dy frawd Esau; ac y mae efe yn dyfod i’th gyfarfod di, a phedwar cant o wŷr gyd âg ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 27:40Wrth dy gleddyf hefyd y byddi fyw, a’th frawd a wasanaethi: ond bydd amser pan feistrolech di, ac y torrech ei iau ef oddi am dy wddf.
Genesis 32:8Ac a ddywedodd, Os daw Esau at y naill fintai, a tharo honno, yna y fintai arall a fydd ddïangol.
Genesis 33:1yn prynu maes yn Salem, ac yn adeiladu allor, a’i henwi El-Elohe-Israel. A Jacob a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele Esau yn dyfod, a phedwar cant o wŷr gyd âg ef: ac efe a rannodd y plant at Lea, ac at Rahel, ac at y ddwy law-forwyn.
Genesis 33:15Ac Esau a ddywedodd, Gadawaf yn awr gyd â thi rai o’r bobl sydd gyd â mi. Yntau a ddywedodd, I ba beth y gwnei hynny? Cafwyf ffafr y’ngolwg fy arglwydd.
Genesis 47:25A dywedasant, Cedwaist ni yn fyw: gâd i ni gael ffafr y’ngolwg fy arglwydd, a byddwn weision i Pharaoh.
Ruth 2:13Yna hi a ddywedodd, Caffwyf ffafr yn dy olwg di, fy arglwydd; gan i ti fy nghysuro i, a chan i ti lefaru wrth fodd calon dy wasanaethferch, er nad ydwyf fel un o’th lawforynion di.