The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 32

1Mae efe yn cloffi. A Jacob a gerddodd i’w daith yntau: ac angylion Duw a gyfarfu âg ef.

2A Jacob a ddywedodd, pan welodd hwynt, Dyma wersyll Duw: ac a alwodd enw y lle hwnnw Mahanaim.

3A Jacob a anfonodd genhadau o’i flaen at ei frawd Esau, i wlad Seir, i wlad Edom:

4Ac a orchymynnodd iddynt, gan ddywedyd, Fel hyn y dywedwch wrth fy arglwydd Esau; Fel hyn y dywed dy was di Jacob; Gyd â Laban yr ymdeithiais, ac y trigais hyd yn hyn.

5Ac y mae i mi eidionau, ac asynod, defaid, a gweision, a morwynion: ac anfon a wneuthum i fynegi i’m harglwydd, i gael ffafr yn dy olwg.

6¶ A’r cenhadau a ddychwelasant at Jacob, gan ddywedyd, Daethom at dy frawd Esau; ac y mae efe yn dyfod i’th gyfarfod di, a phedwar cant o wŷr gyd âg ef.

7Yna Jacob a ofnodd yn fawr, a chyfyng oedd arno: ac efe a ran nodd y bobl oedd gyd âg ef, a’r defaid, a’r eidionau, a’r camelod, yn ddwy fintai;

8Ac a ddywedodd, Os daw Esau at y naill fintai, a tharo honno, yna y fintai arall a fydd ddïangol.

9¶ A dywedodd Jacob, O Dduw fy nhad Abraham, a Duw fy nhad Isaac, O Arglwydd, yr hwn a ddywedaist wrthyf, Dychwel i’th wlad, ac at dy genedl, a mi a wnaf ddaioni i ti!

10Ni ryglyddais y lleiaf o’th holl drugareddau di, nac o’r holl wirionedd a wnaethost â’th was: oblegid â’m ffon y deuthum dros yr Iorddonen hon; ond yn awr yr ydwyf yn ddwy fintai.

11Achub fi, attolwg, o law fy mrawd, o law Esau: oblegid yr ydwyf fi yn ei ofni ef, rhag dyfod o hono a’m taro, a’r fam gyd â’r plant.

12A thydi a ddywedaist, Gwnaf ddaioni i ti yn ddïau; a’th had di a wnaf fel tywod y môr, yr hwn o amlder ni ellir ei rifo.

13¶ Ac yno y llettŷodd efe y noson honno: ac o’r hyn a ddaeth i’w law ef y cymmerth efe anrheg i’w frawd Esau;

14Dau gant o eifr, ac ugain o fychod, dau gant o ddefaid, ac ugain o hyrddod,

15Deg ar hugain o gamelod blithion a’u llydnod, deugain o wartheg, a deg o deirw, ugain o asenod, a deg o ebolion.

16Ac efe a roddes yn llaw ei weision bob gyrr o’r neilldu: ac a ddywedodd wrth ei weision, Ewch trosodd o’m blaen i, a gosodwch encyd rhwng pob gyrr a’i gilydd.

17Ac efe a orchymynodd i’r blaenaf, gan ddywedyd, Os Esau fy mrawd a’th gyferfydd di, ac a ymofyn â thydi, gan ddywedyd, I bwy y perthyni di? ac i ba le yr âi? ac eiddo pwy yw y rhai hyn o’th flaen di?

18Yna y dywedi, Eiddo dy was Jacob; anrheg yw wedi ei hanfon i’m harglwydd Esau: ac wele yntau hefyd ar ein hol ni.

19Felly y gorchymynnodd hefyd i’r ail, ac i’r trydydd, ac i’r rhai oll oedd yn canlyn y gyrroedd, gan ddywedyd, Yn y modd hwn y dywedwch wrth Esau, pan gaffoch afael arno.

20A dywedwch hefyd, Wele dy was Jacob ar ein hol ni. Oblegid, eb efe, boddlonaf ei wyneb ef â’r anrheg sydd yn myned o’m blaen: ac wedi hynny edrychaf yn ei wyneb ef; ond antur efe a dderbyn fy wyneb innau.

21Felly yr anrheg a aeth trosodd o’i flaen ef: ac efe a lettŷodd y noson honno yn y gwersyll.

22Ac efe a gyfododd y noson honno, a gymmerth ei ddwy wragedd, a’i ddwy law-forwyn, a’i un mab ar ddeg, ac a aeth dros rŷd Jabboc.

23Ac a’u cymmerth hwynt, ac a’u trosglwyddodd trwy yr afon: felly efe a drosglwyddodd yr hyn oedd ganddo.

24¶ A Jacob a adawyd ei hunan: yna yr ymdrechodd gwr âg ef nes codi y wawr.

25A phan welodd na byddai drech nag ef, efe a gyffyrddodd â chysswllt ei forddwyd ef; fel y llaesodd cysswllt morddwyd Jacob, wrth ymdrech o hono âg ef.

26A’r angel a ddywedodd, Gollwng fi ymaith; oblegid y wawr a gyfododd. Yntau a attebodd, Ni’th ollyngaf, oni’m bendithi.

27Hefyd efe a ddywedodd wrtho, Beth yw dy enw? Ac efe a attebodd, Jacob.

28Yntau a ddywedodd, Mwyach ni elwir dy enw di Jacob, ond Israel: oblegid cefaist nerth gyd â Duw fel tywysog, a chyd â dynion, ac a orchfygaist.

29A Jacob a ymofynnodd, ac a ddywedodd, Mynega, attolwg, dy enw. Ac yntau a attebodd, I ba beth y gofynni hyn am fy enw i? Ac yno efe a’i bendithiodd ef.

30A Jacob a alwodd enw y fan Peniel: oblegid gwelais Dduw wyneb yn wyneb, a dïangodd fy einioes.

31A’r haul a gyfodasai arno fel yr oedd yn myned dros Penuel, ac yr oedd efe yn gloff o’i glun.

32Am hynny plant Israel ni fwyttânt y gewyn a giliodd, yr hwn sydd o fewn cysswllt y forddwyd, hyd y dydd hwn: oblegid cyffwrdd â chysswllt morddwyd Jacob ar y gewyn a giliodd.

← Llyfr Genesis 31Read In The App, Free →Llyfr Genesis 33 →

Study Llyfr Genesis 32

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950