Llyfr Genesis 33:17
A Jacob a gerddodd i Succoth, ac a adeiladodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod i’w anifeiliaid: am hynny efe a alwodd enw y lle Succoth.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
16¶ Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir.
Cross References
Exodus 13:20¶ A hwy a aethant o Succoth; ac a wersyllasant yn Etham, y’nghwrr yr anialwch.
Judges 8:5Ac efe a ddywedodd wrth wŷr Succoth, Rhoddwch, atolwg, dorthau o fara i’r bobl sydd i’m canlyn i: canys lluddedig ydynt hwy; a minnau yn erlid ar ôl Seba a Sahnunna, brenbinoedd Midian. º
Judges 8:14Ac efe a ddaliodd lane o wŷr Suc¬coth, ac a ymofynnodd ag ef. Ac yntau a ysgrifennodd iddo dywysogion Suc¬coth, a’r henuriaid; sef dau ŵr ar bymtheg a thrigain. º
1 Kings 7:46Yng ngwastadedd yr Iorddonen y toddodd y brenin hwynt mewn cleidir, rhwng Succoth a Sarthan.