The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 33

1yn prynu maes yn Salem, ac yn adeiladu allor, a’i henwi El-Elohe-Israel. A Jacob a ddyrchafodd ei lygaid, ac a edrychodd; ac wele Esau yn dyfod, a phedwar cant o wŷr gyd âg ef: ac efe a rannodd y plant at Lea, ac at Rahel, ac at y ddwy law-forwyn.

2Ac ym mlaen y gosododd efe y ddwy law-forwyn, a’u plant hwy, a Leah a’i phlant hithau yn ol y rhai hynny, a Rahel a Joseph yn olaf.

3Ac yntau a gerddodd o’u blaen hwynt, ac a ymostyngodd i lawr seithwaith, oni ddaeth efe yn agos at ei frawd.

4Ac Esau a redodd i’w gyfarfod ef, ac a’i cofleidiodd ef, ac a syrthiodd ar ei wddf ef, ac a’i cusanodd ef: a hwy a wylasant.

5Ac efe a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu y gwragedd, a’r plant; ac a ddywedodd, Pwy yw y rhai hyn gennyt ti? Yntau a ddywedodd, Y plant a roddes Duw o’i ras i’th was di.

6Yna y llaw-forwynion a nesasant, hwynt-hwy a’u plant, ac a ymgrymmasant.

7A Leah a nesaodd a’i phlant hithau, ac a ymgrymamsant: ac wedi hynny y nesaodd Joseph a Rahel, ac a ymgrymmasant.

8Ac efe a ddywedodd, Pa beth yw gennyt yr holl fintai accw a gyfarfum i? Yntau a ddywedodd, Anfonais hwynt i gael ffafr yng ngolwg fy arglwydd.

9Ac Esau a ddywedodd, Y mae gennyf fi ddigon, fy mrawd; bydded i ti yr hyn sydd gennyt.

10A Jacob a ddywedodd, Nag ê; attolwg, os cefais yn awr ffafr yn dy olwg, cymmer fy anrheg o’m llaw i: canys am hynny y gwelais dy wyneb, fel pe gwelswn wyneb Duw, a thi yn foddlawn i mi.

11Cymmer, attolwg, fy mendith, yr hon a ddygpwyd i ti; oblegid Duw a fu raslawn i mi, ac am fod gennyf fi bob peth. Ac efe a fu daer arno: ac yntau a gymmerodd;

12Ac a ddywedodd, Cychwynwn, ac awn: a mi a âf o’th flaen di.

13Yntau a ddywedodd wrtho, Fy arglwydd a ŵyr mai tyner yw y plant, a bod y praidd a’r gwartheg blithion gyd â myfi; os gyrrir hwynt un diwrnod yn rhy chwyrn, marw a wna yr holl braidd.

14Aed, attolwg, fy arglwydd o flaen ei was; a minnau a ddeuaf yn araf, fel y gallo yr anifeiliaid sydd o’m blaen i, ac y gallo y plant, hyd oni ddelwyf at fy arglwydd i Seir.

15Ac Esau a ddywedodd, Gadawaf yn awr gyd â thi rai o’r bobl sydd gyd â mi. Yntau a ddywedodd, I ba beth y gwnei hynny? Cafwyf ffafr y’ngolwg fy arglwydd.

16¶ Felly Esau y dydd hwnnw a ddychwelodd ar hyd ei ffordd ei hun i Seir.

17A Jacob a gerddodd i Succoth, ac a adeiladodd iddo dŷ, ac a wnaeth fythod i’w anifeiliaid: am hynny efe a alwodd enw y lle Succoth.

18¶ Hefyd Jacob a ddaeth yn llwyddiannus i ddinas Sichem, yr hon sydd y’ngwlad Canaan, pan ddaeth efe o Mesopotamia; ac a wersyllodd o flaen y ddinas.

19Ac a brynodd ran o’r maes y lledasai ei babell ynddo, o law meibion Hemor tad Sichem, am gàn darn o arian:

20Ac a osododd yno allor, ac a’i henwodd El-Elohe-Israel.

← Llyfr Genesis 32Read In The App, Free →Llyfr Genesis 34 →

Study Llyfr Genesis 33

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950