bible.software › Llyfr Genesis › Llyfr Genesis 34 › Llyfr Genesis 34:21
Llyfr Genesis 34:21
Y gwŷr hyn heddychol ŷnt hwy gyd â ni; trigant hwythau yn y wlad, a gwnant eu negesau ynddi: a’r wlad, wele, sydd ddigon ehang iddynt hwy: cymmerwn eu merched hwynt i ni yn wragedd, a rhoddwn ein merched ninnau iddynt hwy.
Beibl (1620)
In The King James Version
These men are peaceable with us; therefore let them dwell in the land, and trade therein; for the land, behold, it is large enough for them; let us take their daughters to us for wives, and let us give them our daughters.
In Context
20¶ A Hemor, a Sichem ei fab ef, a aethant i borth eu dinas, ac a lefarasant wrth eu dinasyddion, gan ddywedyd,
22Ond yn hyn y cyttuna y dynion â ni, i drigo gyd â ni, ar fod yn un bobl, os enwaedir pob gwrryw i ni, fel y maent hwy yn enwaededig.
Read all of Llyfr Genesis 34
Cross References
Genesis 42:34A dygwch eich brawd ieuangaf attaf fi, fel y gwybyddwyf nad ysbïwyr ydych chwi, ond eich bod yn gywir: yna y rhoddaf eich brawd i chwi, a chewch farchnatta yn y wlad.
This Verse In Other Editions
Study Llyfr Genesis 34:21