Llyfr Genesis 34
1Jacob yn ceryddu Simeon a Lefi. A Dinah merch Leah, yr hon a ymddygasai hi i Jacob, a aeth allan i weled merched y wlad.
2A Sichem mab Hemor yr Hefiad, tywysog y wlad, a’i canfu hi, ac a’i cymmerth hi, ac a orweddodd gyd â hi, ac a’i treisiodd.
3A’i enaid ef a lynodd wrth Dinah merch Jacob, ïe, efe a hoffodd y llangces, ac a ddywedodd wrth fodd calon y llangces.
4Sichem hefyd a lefarodd wrth Hemor ei dad, gan ddywedyd, Cymmer y llangces hon yn wraig i mi.
5A Jacob a glybu i Sichem halogi Dinah ei ferch: (a’i feibion ef oedd gyd â’i anifeiliaid ef yn y maes); a Jacob a dawodd â sôn hyd oni ddaethant hwy adref.
6¶ A Hemor tad Sichem a aeth allan at Jacob, i ymddiddan âg ef.
7A meibion Jacob a ddaethant o’r maes, wedi clywed o honynt; a’r gwŷr a ymofidiasant, a digiasant yn ddirfawr, oblegid gwneuthur o Sichem ffolineb yn Israel, gan orwedd gyd â merch Jacob, canys ni ddylesid gwneuthur felly.
8A Hemor a ymddiddanodd â hwynt, gan ddywedyd, Glynu a wnaeth enaid Sichem fy mab i wrth eich merch chwi: rhoddwch hi, attolwg, yn wraig iddo ef.
9Ac ymgyfathrechwch â ni; rhoddwch eich merched chwi i ni, a chymmerwch ein merched ni i chwithau.
10A chwi a gewch breswylio gyd â ni, a’r wlad fydd o’ch blaen chwi: trigwch a negeseuwch ynddi, a cheisiwch feddiannau ynddi.
11Sichem hefyd a ddywedodd wrth ei thad hi, ac wrth ei brodyr, Cafwyf ffafr yn eich golwg, a’r hyn a ddywedoch wrthyf a roddaf.
12Gosodwch arnaf fi ddirfawr gynnysgaeth a rhodd, a mi a roddaf fel y dywedoch wrthyf: rhoddwch chwithau y llangces i mi yn wraig.
13A meibion Jacob a attebasant Sichem, a Hemor ei dad ef, yn dwyllodrus, ac a ddywedasant, o herwydd iddo ef halogi Dinah eu chwaer hwynt;
14Ac a ddywedasant wrthynt, Ni allwn wneuthur y peth hyn, gan roddi ein chwaer i wr dïenwaededig: oblegid gwarthrudd yw hynny i ni.
15Ond yn hyn y cyttunwn â chwi: Os byddwch fel nyni, gan enwaedu pob gwrryw i chwi;
16Yna y rhoddwn ein merched ni i chwi, ac y cymmerwn eich merched chwithau i ninnau, a ni a gyd-drigwn â chwi, a ni a fyddwn yn un bobl.
17Ond oni wrandêwch arnom ni i’ch enwaedu; yna y cymmerwn ein merch, ac a awn ymaith.
18A’u geiriau hwynt oedd dda y’ngolwg Hemor, ac y’ngolwg Sichem mab Hemor.
19Ac nid oedodd y llangc wneuthur y peth, oblegid efe a roddasai serch ar ferch Jacob: ac yr oedd efe yn anrhydeddusach na holl dŷ ei dad.
20¶ A Hemor, a Sichem ei fab ef, a aethant i borth eu dinas, ac a lefarasant wrth eu dinasyddion, gan ddywedyd,
21Y gwŷr hyn heddychol ŷnt hwy gyd â ni; trigant hwythau yn y wlad, a gwnant eu negesau ynddi: a’r wlad, wele, sydd ddigon ehang iddynt hwy: cymmerwn eu merched hwynt i ni yn wragedd, a rhoddwn ein merched ninnau iddynt hwy.
22Ond yn hyn y cyttuna y dynion â ni, i drigo gyd â ni, ar fod yn un bobl, os enwaedir pob gwrryw i ni, fel y maent hwy yn enwaededig.
23Eu hanifeiliaid hwynt, a’u cyfoeth hwynt, a’u holl ysgrubliaid hwynt, onid eiddo ni fyddant hwy? yn unig cyttunwn â hwynt, a hwy a drigant gyd â ni.
24Ac ar Hemor, ac ar Sichem ei fab ef, y gwrandawodd pawb a’r a oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef: ac enwaedwyd pob gwrtyw, sef y rhai oll oedd yn dyfod allan o borth ei ddinas ef.
25¶ A bu ar y trydydd dydd, pan oeddynt hwy yn ddolurus, gymmeryd o ddau o feibion Jacob, Simeon a Lefi, brodyr Dinah, bob un ei gleddyf, a dyfod ar y ddinas yn hyderus, a lladd pob gwrryw.
26Lladdasant hefyd Hemor a Sichem ei fab â min y cleddyf; a chymmerasant Dinah o dŷ Sichem, ac a aethant allan.
27Meibion Jacob a ddaethant ar lladdedigion, ac a yspeiliasant y ddinas, am halogi o honynt eu chwaer hwynt.
28Cymmerasant eu defaid hwynt, a’u gwartheg, a’u hasynod hwynt, a’r hyn oedd yn y ddinas, a’r hyn oedd yn y maes,
29A’u holl gyfoeth hwynt; a’u holl rai bychain, a’u gwragedd, a gaethgludasant hwy; ac yspeiliasant yr hyn oll oedd yn y tai.
30A Jacob a ddywedodd wrth Simeon a Lefi, Trallodasoch fi, gan beri i mi fod yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad, gan y Canaaneaid, a’r Phereziaid: a minnau yn ychydig o nifer; a hwy a ymgasglant yn fy erbyn, a thrawant fi: felly y difethir fi, mi a’m tŷ.
31Hwythau a attebasant, Ai megis puttain y gwnae efe ein chwaer ni?