Llyfr Genesis 35:1
Oedran, marwolaeth, a chladdedigaeth Isaac. A Duw a ddywedodd wrth Jacob, Cyfod, esgyn i Bethel, a thrig yno; a gwna yno allor i Dduw, yr hwn a ymddangosodd i ti pan ffoaist o ŵydd Esau dy frawd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 12:8Ac efe a dynnodd oddi yno i’r mynydd, o du dwyrain Bethel, ac a estynodd ei babell, gan adael Bethel tu a’r gorllewin, a Hai tu a’r dwyrain: ac a adeiladodd yno allor i’r Arglwydd, ac a alwodd ar enw yr Arglwydd.
Genesis 16:8Ac ef a ddywedodd, Agar, morwyn Sarai, o ba le y daethost? ac i ba le yr âi di? A hi a ddywedodd, Ffoi yr ydwyf fi rhag wyneb fy meistres Sarai.
Genesis 27:41¶ Ac Esau a gasaodd Jacob, am y fendith â’r hon y bendithiasai ei dad ef: ac Esau a ddywedodd yn ei galon, Nesâu y mae dyddiau galar fy nhad; yna lladdaf Jacob fy mrawd.
Genesis 28:13Ac wele yr Arglwydd yn sefyll arni: ac efe a ddywedodd, Myfi yw Arglwydd Dduw Abraham dy dad, a Duw Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had.
Genesis 29:1a Judah. A Jacob a gymmerth ei daith, ac a aeth i wlad meibion y dwyrain.
Genesis 31:13Myfi yw Duw Bethel, lle yr enneiniaist y golofn, a lle yr addunaist adduned i mi: cyfod bellach, dos allan o’r wlad hon, dychwel i wlad dy genedl dy hun.