Llyfr Genesis 28:13
Ac wele yr Arglwydd yn sefyll arni: ac efe a ddywedodd, Myfi yw Arglwydd Dduw Abraham dy dad, a Duw Isaac; y tir yr wyt ti yn gorwedd arno, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 13:15Canys yr holl dir a weli, i ti y rhoddaf ef, ac i’th had byth.
Genesis 17:6A mi a’th wnaf yn ffrwythlawn iawn, ac a wnaf genhedloedd o honot ti, a brenhinoedd a ddaw allan o honot ti.
Genesis 26:3Ymdeithia yn y wlad hon, a mi a fyddaf gyd â thi, ac a’th fendithiaf; o herwydd i ti ac i’th had y rhoddaf yr holl wledydd hyn, a mi a gyflawnaf fy llw a dyngais wrth Abraham dy dad di.
Genesis 28:4Ac a roddo i ti fendith Abraham, i ti ac i’th had gyd â thi, i etifeddu ohonot dir dy ymdaith, yr hwn a roddodd Duw i Abraham.
Genesis 32:9¶ A dywedodd Jacob, O Dduw fy nhad Abraham, a Duw fy nhad Isaac, O Arglwydd, yr hwn a ddywedaist wrthyf, Dychwel i’th wlad, ac at dy genedl, a mi a wnaf ddaioni i ti!
Genesis 35:1Oedran, marwolaeth, a chladdedigaeth Isaac. A Duw a ddywedodd wrth Jacob, Cyfod, esgyn i Bethel, a thrig yno; a gwna yno allor i Dduw, yr hwn a ymddangosodd i ti pan ffoaist o ŵydd Esau dy frawd.