Llyfr Genesis 36:6
Ac Esau a gymmerodd ei wragedd, a’i feibion, a’i ferched, a holl ddynion ei dŷ, a’i anifeiliaid, a’i holl ysgrubliaid, a’i holl gyfoeth a gasglasai efe y’ngwlad Canaan; ac a aeth ymaith i’r wlad, o ŵydd ei frawd Jacob.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 12:5Ac Abram a gymmerodd Sarai ei wraig, a Lot mab ei frawd, a’u holl olud a gasglasent hwy, a’r eneidiau a ynnillasent yn Haran, ac a aethant allan i fyned i wlad Canaan; ac a ddaethant i wlad Canaan.
Genesis 13:11A Lot a ddewisodd iddo holl wastadedd yr Iorddonen, a Lot a aeth tu a’r dwyrain: felly yr ymneillduasant bob un oddi wrth ei gilydd.
Genesis 25:23A’r Arglwydd a ddywedodd wrthi hi, Dwy genedl sydd yn dy groth di, a dau fath ar bobl a wahenir o’th fru di; a’r naill bobl fydd cryfach na’r llall, a’r hynaf a wasanaetha’r ieuangaf.
Genesis 32:3A Jacob a anfonodd genhadau o’i flaen at ei frawd Esau, i wlad Seir, i wlad Edom:
Revelation 18:13A sinamon, a pheraroglau, ac ennaint, a thus, a gwin, ac olew, a pheilliaid, a gwenith, ac ysgrubliaid, a defaid, a meirch, a cherbydau, a chaethweisioni ac eneidiau dynion.