The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 36

1Y duciaid a ddaethant o Esau. A dyma genhedlaethau Esau: efe yw Edom.

2Esau a gymmerth ei wragedd o ferched Canaan; Adah, merch Elon yr Hethiad, ac Aholibamah, merch Ana, merch Sibeon yr Hefiad;

3Basemath hefyd, merch Ismael, chwaer Nebaioth.

4Ac Adah a ymddûg Eliphaz i Esau: a Basemath a esgorodd ar Reuel.

5Aholibamah hefyd a esgorodd ar Jeus, a Jalam, a Chora: dyma feibion Esau, y rhai a anwyd iddo y’ngwlad Canaan.

6Ac Esau a gymmerodd ei wragedd, a’i feibion, a’i ferched, a holl ddynion ei dŷ, a’i anifeiliaid, a’i holl ysgrubliaid, a’i holl gyfoeth a gasglasai efe y’ngwlad Canaan; ac a aeth ymaith i’r wlad, o ŵydd ei frawd Jacob.

7Oblegid eu cyfoeth hwynt oedd fwy nag y gellynt gyd-drigo: ac nis gallai gwlad eu hymdaith eu cynnwys hwynt, gan eu hanifeiliaid.

8Felly y trigodd Esau ym mynydd Seir: Esau yw Edom.

9¶ A dyma genhedlaethau Esau tad yr Edomiaid ym mynydd Seir.

10Dyma enwau meibion Esau: Eliphaz, mab Ada gwraig Esau; Reuel, mab Basemath gwraig Esau.

11A meibion Eliphaz oedd Teman, Omar, Sepho, a Gatam, a Chenaz.

12A Thimna oedd ordderch-wraig i Eliphaz, mab Esau, ac a esgorodd Amalec i Eliphaz: dyma feibion Ada gwraig Esau.

13A dyma feibion Reuel; Nahath a Zerah, Sammah a Mizzah: y rhai hyn oedd feibion Basemath gwraig Esau.

14¶ Hefyd y rhai hyn oedd feibion Aholibama merch Ana, merch Sibeon, gwraig Esau: a hi a ymddûg i Esau, Jeus, a Jalam, a Chorah.

15¶ Dyma dduciaid o feibion Esau; meibion Eliphaz cyntaf-anedig Esau, duc Teman, duc Omar, duc Seffo, duc Cenaz,

16Duc Cora, duc Gatam, duc Amalec: dyma y duciaid o Eliphaz, y’ngwlad Edom: dyma feibion Adah.

17¶ A dyma feibion Reuel mab Esau; duc Nahath, duc Zerah, duc Sammah, duc Mizzah: dyma y duciaid o Reuel, y’ngwlad Edom: dyma feibion Basemath gwraig Esau.

18¶ Dyma hefyd feibion Aholibamah gwraig Esau: duc Jeus, duc Jalam, duc Corah; dyma y duciaid o Aholibamah, merch Anah, gwraig Esau.

19Dyma feibion Esau (hwn yw Edom), a dyma eu duciaid hwynt.

20¶ Dyma feibion Seir yr Horiad, cyfanneddwyr y wlad; Lotan, a Sobal, a Sibeon, ac Anah,

21A Dison, ac Eser, a Disan: a dyma dduciaid yr Horiaid, meibion Seir, y’ngwlad Edom.

22A meibion Lotan oedd Hori, a Hemam: a chwaer Lotan oedd Timna.

23A dyma feibion Sobal; Alfan, a Manahath, ac Ebal, Sepho, ac Onam.

24A dyma feibion Sibeon; Aiah, ac Anah: hwn yw Anah a gafodd y mulod yn yr anialwch wrth borthi asynod Sibeon ei dad.

25A dyma feibion Anah; Dison, ac Aholibamah merch Anah.

26Dyma hefyd feibion Dison; Hemdan, ac Esban, ac Ithran, a Cheran.

27Dyma feibion Eser; Bilhan, a Zaafan, ac Acan.

28Dyma feibion Disan; Us, ac Aran.

29Dyma dduciaid yr Horiaid; duc Lotan, duc Sobal, duc Sibeon, duc Anah,

30Duc Dison, dug Eser, dug Disan. Dyma dduciaid yr Horiaid ym mhlith eu duciaid y’ngwlad Seir.

31¶ Dyma hefyd y brenhinoedd a deyrnasasant y’ngwlad Edom, cyn teyrnasau brenhin ar feibion Israel.

32A Bela, mab Beor, a deyrnasodd yn Edom; ac enw ei ddinas ef oedd Dinhabah.

33A Bela a fu farw; a Jobab, mab Serah o Bosrah, a deyrnasodd yn ei le ef.

34Jobab hefyd a fu farw; a Husam, o wlad Temani, a deyrnasodd yn ei le ef.

35A bu Husam farw; a Hadad, mab Bedad, yr hwn a darawodd Midian ym maes Moab, a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Afith.

36Marw hefyd a wnaeth Hadad; a Samlah, o Masrecah, a deyrnasodd yn ei le ef.

37A bu Samlah farw; a Saul, o Rehoboth wrth yr afon, a deyrnasodd yn ei le ef.

38A bu Saul farw; a Baalhanan, mab Achbor, a deyrnasodd yn ei le ef.

39A bu Baalhanan, mab Achbor, farw; a Hadar a deyrnasodd yn ei le ef: ac enw ei ddinas ef oedd Pau; ac enw ei wraig Mehetabel, merch Matred, merch Mezahab.

40A dyma enwau y duciaid o Esau, yn ol eu teuluoedd, wrth eu trigleoedd, erbyn eu henwau, duc Timna, duc Alfah, dug Jetheth,

41Duc Aholibama, duc Ela, duc Pinon,

42Duc Cenaz, duc Teman, duc Mibsar,

43Duc Magdiel, duc Iram. Dyma y duciaid o Edom, yn ol eu preswylfeydd, y’ngwlad eu perchennogaeth: dyma Esau, tad yr Edomiaid.

← Llyfr Genesis 35Read In The App, Free →Llyfr Genesis 37 →

Study Llyfr Genesis 36

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950