Llyfr Genesis 37:27
Deuwch, a gwerthwn ef i’r Ismaeliaid, ac na fydded ein llaw ni arno ef, oblegid ein brawd ni a’n cnawd ydyw efe. A’i frodyr a gyttunasant.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
26A dywedodd Judah wrth ei frodyr, Pa lesâd a fydd os lladdwn ein brawd, a chelu ei waed ef?
Cross References
Genesis 29:14A dywedodd Laban wrtho ef, Yn ddïau fy asgwrn i a’m cnawd ydwyt ti. Ac efe a drigodd gyd âg ef fis o ddyddiau.
Genesis 42:21¶ Ac a ddywedasant wrth eu gilydd, Dïau bechu o honom yn erbyn ein brawd; oblegid gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef, pan ymbiliodd efe â ni, ac ni wrandawsom ef: am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni.
Exodus 21:21Ond os erys ddiwrnod, neu ddau ddiwrnod, na ddïaler arno; canys gwerth ei arian ei hun ydoedd efe.
2 Samuel 11:14A’r bore yr ysgrifennodd Dafydd lythyr at Joab, ac a’i hanfonodd yn llaw Ureias. º
Nehemiah 5:8Dywedais hefyd wrthynt, Nyni yn ôl ein gallu a brynasom ein brodyr yr Iddewon, y rhai a werthasid i’r cenhedloedd; ac a ydych chwithau yn gwerthu eich brodyr? neu a werthir hwynt i ni? Yna y tawsant, ac ni chawsant air i ateb.
Matthew 26:15Ac a ddywedodd wrthynt, Pa beth a roddwch i mi, a mi a’i traddodaf ef i chwi? A hwy a osodasant iddo ddeg ar hugain o arian.