The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 37

1Ei werthu ef i Putiphar yn yr Aipht. A thrigodd Jacob y’ngwlad ymdaith ei dad, y’ngwlad Canaan.

2Dyma genhedlaethau Jacob. Joseph, yn fab dwy flwydd ar bymtheg, oedd fugail gyd â’i frodyr ar y praidd: a’r llangc oedd gyd â meibion Bilha, a chyd â meibion Zilpah, gwragedd ei dad; a Joseph a ddygodd eu drygair hwynt at eu tad.

3Ac Israel oedd hoffach ganddo Joseph na’i holl feibion: oblegid efe oedd fab ei henaint ef: ac efe a wnaeth siacced fraith iddo ef.

4A phan welodd ei frodyr fod eu tad yn ei garu ef yn fwy na’i holl frodyr, hwy a’i casasant ef, ac ni fedrent ymddiddan âg ef yn heddychol.

5¶ A Joseph a freuddwydiodd freuddwyd, ac a’i mynegodd i’w frodyr: a hwy a’i casasant ef etto yn ychwaneg.

6Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandêwch, attolwg, y breuddwyd hwn a freuddwydiais i.

7Ac wele, rhwymo ysgubau yr oeddym ni y’nghanol y maes; ac wele; fy ysgub i a gyfododd, ac a safodd hefyd; ac wele, eich ysgubau chwi a safasant o amgylch, ac a ymgrymmasant i’m hysgub i.

8A’i frodyr a ddywedasant wrtho, Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni? A hwy a chwanegasant etto ei gasâu ef, oblegid ei freuddwydion, ac oblegid ei eiriau.

9¶ Hefyd efe a freuddwydiodd etto freuddwyd arall, ac a’i mynegodd i’w frodyr, ac a ddywedodd, Wele, breuddwydiais freuddwyd etto; ac wele, yr haul, a’r lleuad, a’r un seren ar ddeg, yn ymgrymmu i mi.

10Ac efe a’i mynegodd i’w dad, ac i’w frodyr. A’i dad a feiodd arno, ac a ddywedodd wrtho, Pa freuddwyd yw hwn a freuddwydiaist ti? Ai gan ddyfod y deuwn ni, mi, a’th fam, a’th frodyr, i ymgrymmu i lawr i ti?

11A’i frodyr a genfigennasant wrtho ef; ond ei dad a ddaliodd ar y peth.

12¶ A’i frodyr a aethant i fugeilia praidd eu tad, yn Sichem.

13Ac Israel a ddywedodd wrth Joseph, Onid yw dy frodyr yn bugeilio yn Sichem? Tyred, a mi a’th anfonaf attynt. Yntau a ddywedodd wrtho, Wele fi.

14A dywedodd wrtho, Dos weithian, edrych pa lwyddiant sydd i’th frodyr, a pha lwyddiant sydd i’r praidd: a dwg eilchwyl air i mi. Felly efe a’i hanfonodd ef o ddyffryn Hebron; ac efe a ddaeth i Sichem.

15¶ A chyfarfu gwr âg ef; ac wele efe yn crwydro yn y maes: a’r gwr a ymofynnodd âg ef, gan ddywedyd, Pa beth yr wyt ti yn ei geisio?

16Yntau a ddywedodd, Ceisio fy mrodyr yr ydwyf fi; mynega, attolwg, i mi, pa le y maent hwy yn bugeilio?

17A’r gwr a ddywedodd, Hwy a aethant oddi yma; oblegid mi a’u clywais hwy yn dywedyd, Awn i Dothan. A Joseph a aeth ar ol ei frodyr, ac a’u cafodd hwynt yn Dothan.

18Hwythau a’i canfuant ef o bell; a chyn ei ddynesu ef attynt, hwy a gyd-fwriadasant yn ei erbyn ef, i’w ladd ef.

19A dywedasant wrth ei gilydd, Wele y breuddwydiwr yn dyfod.

20Deuwch gan hynny yn awr, a lladdwn ef, a thaflwn ef yn un o’r pydewau; a dywedwn, Bwystfil drwg a’i bwyttaodd ef: yna y cawn weled beth a ddaw o’i freuddwydion ef.

21A Reuben a glybu, ac a’i hachubodd ef o’u llaw hwynt; ac a ddywedodd, Na laddwn ef.

22Reuben a ddywedodd hefyd wrthynt, Na thywelltwch waed; bwriwch ef i’r pydew hwn sydd yn yr anialwch, ac nac estynwch law arno: fel yr achubai ef o’u llaw hwynt, i’w ddwyn eilwaith at ei dad.

23¶ A bu, pan ddaeth Joseph at ei frodyr, iddynt ddïosg ei siacced oddi am Joseph, sef y siacced fraith ydoedd am dano ef.

24A chymmerasant ef, a thaflasant i bydew: a’r pydew oedd wag heb ddwfr ynddo.

25A hwy a eisteddasant i fwytta bwyd; ac a ddyrchafasant eu llygaid, ac a edrychasant, ac wele fintai o Ismaeliaid yn dyfod o Gilead, yn myned i waered i’r Aipht, a’u camelod yn dwyn llysiau, a balm, a myrr.

26A dywedodd Judah wrth ei frodyr, Pa lesâd a fydd os lladdwn ein brawd, a chelu ei waed ef?

27Deuwch, a gwerthwn ef i’r Ismaeliaid, ac na fydded ein llaw ni arno ef, oblegid ein brawd ni a’n cnawd ydyw efe. A’i frodyr a gyttunasant.

28A phan ddaeth y marchnadwyr o Midian heibio, y tynnasant ac y cyfodasant Joseph i fynu o’r pydew, ac a werthasant Joseph i’r Ismaeliaid er ugain darn o arian: hwythau a ddygasant Joseph i’r Aipht.

29¶ A Reuben a ddaeth eilwaith at y pydew; ac wele nid ydoedd Joseph yn y pydew: ac yntau a rwygodd ei ddillad;

30Ac a ddychwelodd at ei frodyr, ac a ddywedodd, Y llangc nid yw accw; a minnau, i ba le yr âf fi?

31A hwy a gymmerasant siacced Joseph, ac a laddasant fỳn gafr, ac a drochasant y siacced yn y gwaed.

32Ac a anfonasant y siacced fraith, ac a’i dygasant at eu tad, ac a ddywedasant, Hon a gawsom: myn wybod yn awr, ai siacced dy fab yw hi, ai nad ê.

33Yntau a’i hadnabu hi, ac a ddywedodd, Siacced fy mab yw hi; bwystfil drwg a’i bwyttaodd ef: gan larpio y llarpiwyd Joseph.

34A Jacob a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachlen am ei lwynau, ac a alarodd am ei fab ddyddiau lawer.

35A’i holl feibion, a’i holl ferched, a godasant i’w gysuro ef; ond efe a wrthododd gymmeryd cysur, ac a ddywedodd, Yn ddïau disgynaf yn alarus at fy mab i’r beddrod: a’i dad a wylodd am dano ef.

36A’r Midianiaid a’i gwerthasant ef i’r Aipht, i Putiphar tywysog Pharaoh, a’r distain.

← Llyfr Genesis 36Read In The App, Free →Llyfr Genesis 38 →

Study Llyfr Genesis 37

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950