Llyfr Genesis 37:34
A Jacob a rwygodd ei ddillad, ac a osododd sachlen am ei lwynau, ac a alarodd am ei fab ddyddiau lawer.
Beibl (1620)
In The King James Version
And Jacob rent his clothes, and put sackcloth upon his loins, and mourned for his son many days.
In Context
Cross References
Genesis 37:29¶ A Reuben a ddaeth eilwaith at y pydew; ac wele nid ydoedd Joseph yn y pydew: ac yntau a rwygodd ei ddillad;
Joshua 7:6¶ A Josua a rwygodd ei ddillad, ac a syrthiodd i lawr ar ei wyneb o flaen arch yr Arglwydd, hyd yr hwyr, efe a henuriaid Israel, ac a ddodasant lwch ar eu pennau.
2 Samuel 1:11Yna Dafydd a ymaflodd yn ei ddillad, ac a’u rhwygodd hwynt; a’r holl wŷr hefyd y rhai oedd gydag ef.
1 Kings 20:31A’i weision a ddywedasant wrtho, Wele yn awr, clywsom am frenhinoedd tŷ Israel, mai brenhinoedd trugarog ydynt hwy: gosodwn, atolwg, sachliain am ein llwynau, a rhaffau am ein pennau, ac awn at frenin Israel; ond odid efe a geidw dy einioes di. º
2 Kings 19:1A phan glybu y brenin Heseceia hynny, efe a rwygodd ei ddillad, ac a ymwisgodd a sachliain, ac a aeth i mewn i dŷ yr ARGLWYDD. º
1 Chronicles 21:16A Dafydd a ddyrchafodd ei lygaid, ac a ganfu angel yr ARGLWYDD yn sefylli rhwng y ddaear a’r nefoedd, a’i gleddyf noeth yn ei law wedi ei estyn tua Jerw¬salem. A syrthiodd Dafydd a’r henuriaid, y rhai oedd wedi ymwisgo mewn sachliain, ar eu hwynebau. º