Llyfr Genesis 37:5
¶ A Joseph a freuddwydiodd freuddwyd, ac a’i mynegodd i’w frodyr: a hwy a’i casasant ef etto yn ychwaneg.
Beibl (1620)
In The King James Version
And Joseph dreamed a dream, and he told it his brethren: and they hated him yet the more.
In Context
6Ac efe a ddywedodd wrthynt, Gwrandêwch, attolwg, y breuddwyd hwn a freuddwydiais i.
Cross References
Genesis 28:12Ac efe a freuddwydiodd; ac wele ysgol yn sefyll ar y ddaear, a’i phen yn cyrhaeddyd i’r nefoedd: ac wele angelion Duw yn dringo ac yn disgyn ar hyd-ddi.
Genesis 37:8A’i frodyr a ddywedasant wrtho, Ai gan deyrnasu y teyrnesi arnom ni? ai gan arglwyddiaethu yr arglwyddiaethi arnom ni? A hwy a chwanegasant etto ei gasâu ef, oblegid ei freuddwydion, ac oblegid ei eiriau.
Genesis 41:1Y newyn yn dechreu. Yna ym mhen dwy flynedd lawn, y bu i Pharaoh freuddwydio; ac wele efe yn sefyll wrth yr afon.
Genesis 49:23A’r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a’i casasant ef.
Judges 7:13A phan ddaeth Gedeon, wele ŵr yn mynegi i’w gyfaill freuddwyd, ac yn dywedyd, Wele, breuddwyd a freuddwydiais; ac wele dorth o fara haidd yn ymdreiglo i wersyll y Midianiaid, a hi a ddaeth hyd at babell, ac a’i trawodd fel y syrthiodd, a hi a’i hymchwelodd, fel y syrthiodd y babell.