Llyfr Genesis 4:11
Ac yr awr hon melldigedig wyt ti o’r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o’th law di.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
10A dywedodd Duw, Beth a wnaethost? llef gwaed dy frawd sydd yn gwaeddi arnaf fi o’r ddaear.
Cross References
Genesis 3:14A’r Arglwydd Dduw a ddywedodd wrth y sarph, Am wneuthur o honot hyn, melldigediccach wyt ti na’r holl anifeiliaid, ac na holl fwystfilod y maes: ar dy dorr y cerddi, a phridd a fwyttêi holl ddyddiau dy einioes.
Deuteronomy 27:16Melldigedig yw yr hwn a ddirmygo ei dad neu ei fam. A dyweded yr holl bobl, Amen.
Deuteronomy 29:19A bod, pan glywo efe eiriau y felldith hon, ymfendithio o hono yn ei galon ei hun, gan ddywedyd, Heddwch fydd i mi, er i mi rodio y’nghyndynrwydd fy nghalon, i chwanegu meddwdod at syched:
Job 31:38Os ydyw fy nhir i yn llefain yn fy erbyn, ac os ydyw ei gwysau ef yn cydwylo;
Galatians 3:10Canys cynifer ag y sydd o weithredoedd y ddeddf, dan felltith y maent: canys ysgrifennwyd, Melltigedig yw pob un nid yw yn aros yn yr holl bethau a ysgrifennir yn llyfr y ddeddf, i’w gwneuthur hwynt.