The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 4

1Ac Adda a adnabu Efa ei wraig: a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Cain; ac a ddywedodd, Cefais wr gan yr Arglwydd.

2A hi a esgorodd eilwaith ar ei frawd ef Abel; ac Abel oedd fugail defaid, ond Cain oedd yn llafurio y ddaear.

3A bu, wedi talm o ddyddiau, i Cain ddwyn o ffrwyth y ddaear offrwm i’r Arglwydd.

4Ac Abel yntau a ddug o flaenffrwyth ei ddefaid, ac o’u brasder hwynt. A’r Arglwydd a edrychodd ar Abel, ac ar ei offrwm:

5Ond nid edrychodd efe ar Cain, nac ar ei offrwm ef. A digllonodd Cain yn ddirfawr, fel y syrthiodd ei wynebpryd ef.

6A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain, Paham y llidiaist? a phaham y syrthiodd dy wynebpryd?

7Os da y gwnei, oni chei oruchafiaeth? ac oni wnei yn dda, pechod a orwedd wrth y drws: attat ti hefyd y mae ei ddymuniad ef, a thi a lywodraethi arno ef.

8A Chain a ddywedodd wrth Abel ei frawd: ac fel yr oeddynt hwy yn y maes, Cain a gododd yn erbyn Abel ei frawd, ac a’i lladdodd ef.

9¶ A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Cain, Mae Abel dy frawd di? Yntau a ddywedodd, Nis gwn; ai ceidwad fy mrawd ydwyf fi?

10A dywedodd Duw, Beth a wnaethost? llef gwaed dy frawd sydd yn gwaeddi arnaf fi o’r ddaear.

11Ac yr awr hon melldigedig wyt ti o’r ddaear, yr hon a agorodd ei safn i dderbyn gwaed dy frawd o’th law di.

12Pan lafuriech y ddaear, ni chwanega hi roddi ei ffrwyth i ti; gwibiad a chrwydriad fyddi ar y ddaear.

13Yna y dywedodd Cain wrth yr Arglwydd, Mwy yw fy anwiredd nag y gellir ei faddeu.

14Wele, gyrraist fi heddyw oddi ar wyneb y ddaear, ac o’th ŵydd di y’m cuddir: gwibiad hefyd a chrwydriad fyddaf ar y ddaear; a phwy bynnag a’m caffo a’m lladd.

15A dywedodd yr Arglwydd wrtho, Am hynny y dïelir yn saith ddyblyg ar bwy bynnag a laddo Cain. A’r Arglwydd a osododd nôd ar Cain, rhag i neb a’i caffai ei ladd ef.

16¶ A Chain a aeth allan o ŵydd yr Arglwydd, ac a drigodd yn nhir Nod, o’r tu dwyrain i Eden.

17Cain hefyd a adnabu ei wraig; a hi a feichiogodd, ac a esgorodd ar Enoch: yna yr ydoedd efe yn adeiladu dinas, ac efe a alwodd enw y ddinas yn ol enw ei fab, Enoch.

18Ac i Enoch y ganwyd Irad: ac Irad a genhedlodd Mehuiael, a Mehuiael a genhedlodd Methusael, a Methusael a genhedlodd Lamech.

19¶ A Lamech a gymmerodd iddo ddwy o wragedd: enw y gyntaf oedd Adah, ac enw yr ail Sìlah.

20Ac Adah a esgorodd ar Jabal; hwn ydoedd dad pob preswylydd pabell, a pherchen anifail.

21Ac enw ei frawd ef oedd Jubal; ac efe oedd dad pob teimlydd telyn ac organ.

22Sìlah hithau a esgorodd ar Tubal-Cain, gweithydd pob cywreinwaith pres a haiarn: a chwaer Tubal-Cain ydoedd Naamah.

23A Lamech a ddywedodd wrth ei wragedd, Adah a Sìlah, Clywch fy llais, gwragedd Lamech, gwrandêwch fy lleferydd; canys mi a leddais wr i’m harcholl, a llangc i’m clais.

24Os Cain a ddïelir seithwaith, yna Lamech saith ddengwaith a seithwaith.

25¶ Ac Adda a adnabu ei wraig drachefn; a hi a esgorodd ar fab, ac a alwodd ei enw ef Seth: O herwydd Duw, eb hi, a osododd i mi had arall yn lle Abel, am ladd o Cain ef.

26I’r Seth hwn hefyd y ganwyd mab; ac efe a alwodd ei enw ef Enos: yna y dechreuwyd galw ar enw yr Arglwydd.

← Llyfr Genesis 3Read In The App, Free →Llyfr Genesis 5 →

Study Llyfr Genesis 4

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950