The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 40

1A darfu wedi’r pethau hynny, i drulliad brenhin yr Aipht, a’r pobydd, bechu yn erbyn eu harglwydd, brenhin yr Aipht.

2A Pharaoh a lidiodd wrth ei ddau swyddwr, sef wrth y pen-trulliad, a’r pen-pobydd:

3Ac a’u rhoddes hwynt mewn dalfa, yn nhŷ y distain, sef yn y carchardy, y lle yr oedd Joseph yn rhwym.

4A’r distain a wnaeth Joseph yn olygwr arnynt hwy; ac efe a’u gwasanaethodd hwynt: a buont mewn dalfa dros amser.

5¶ A breuddwydiasant freuddwyd ill dau, pob un ei freuddwyd ei hun yn yr un nos, pob un ar ol dehongliad ei freuddwyd ei hun, trulliad a phobydd brenhin yr Aipht, y rhai oedd yn rhwym yn y carchardy.

6A’r bore y daeth Joseph attynt, ac a edrychodd arnynt; ac wele hwynt yn athrist.

7Ac efe a ymofynnodd â swyddwyr Pharaoh, y rhai oedd gyd âg ef mewn dalfa yn nhŷ ei arglwydd, gan ddywedyd, Paham y mae eich wynebau yn ddrwg heddyw?

8A dywedasant wrtho, Breuddwydiasom freuddwyd, ac nid oes a’i dehonglo. A Joseph a ddywedodd wrthynt, Onid i Dduw y perthyn dehongli? mynegwch, attolwg, i mi.

9A’r pen-trulliad a fynegodd ei freuddwyd i Joseph; ac a ddywedodd wrtho, Yn fy mreuddwyd yr oeddwn, ac wele winwydden o’m blaen;

10Ac yn y winwydden yr oedd tair caingc: ac yr oedd hi megis yn blaen-darddu; ei blodeuyn a dorrasai allan, ei grawn-sypiau hi a ddug rawnwin aeddfed.

11Hefyd yr oedd cwppan Pharaoh yn fy llaw: a chymmerais y grawnwin, a gwesgais hwynt i gwppan Pharaoh; a rhoddais y cwppan yn llaw Pharaoh.

12A Joseph a ddywedodd wrtho, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tair caingc.

13O fewn tri diwrnod etto Pharaoh a ddyrchafa dy ben di, ac a’th rydd di eilwaith yn dy le; a rhoddi gwppan Pharaoh yn ei law ef, fel y buost arferol yn y cyntaf, pan oeddyt drulliad iddo.

14Etto cofia fi gyd â thi, pan fo daioni i ti, a gwna, attolwg, â mi drugaredd, a chofia fi wrth Pharaoh, a dwg fi allan o’r tŷ hwn:

15Oblegid yn lladrad y’m lladrattâwyd o wlad yr Hebreaid; ac yma hefyd ni wneuthum ddim, fel y bwrient fi y’ngharchar.

16Pan welodd y pen-pobydd mai da oedd y dehongliad, efe a ddywedodd wrth Joseph, Minnau hefyd oeddwn yn fy mreuddwyd; ac wele, dri chawell rhwyd-dyllog ar fy mhen.

17Ac yn y cawell uchaf yr oedd peth o bob bwyd Pharaoh o waith pobydd; a’r ehediaid yn eu bwytta hwynt o’r cawell oddi ar fy mhen.

18A Joseph a attebodd ac a ddywedodd, Dyma ei ddehongliad ef. Tri diwrnod yw y tri chawell.

19O fewn tri diwrnod etto y cymmer Pharaoh dy ben di oddi arnat, ac a’th groga di ar bren; a’r ehediaid a fwyttânt dy gnawd di oddi am danat.

20¶ Ac ar y trydydd dydd yr oedd dydd genedigaeth Pharaoh: ac efe a wnaeth wledd i’w holl weision: ac efe a ddyrchafodd ben y pen-trulliad, a’r pen-pobydd ym mysg ei weision.

21Ac a osododd y pen-trulliad eilwaith yn ei swydd; ac yntau a roddes y cwppan i law Pharaoh.

22A’r pen-pobydd a grogodd efe, fel y dehonglasai Joseph iddynt hwy.

23Ond y pen-trulliad ni chofiodd Joseph, eithr anghofiodd ef.

← Llyfr Genesis 39Read In The App, Free →Llyfr Genesis 41 →

Study Llyfr Genesis 40

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950