Llyfr Genesis 42:15
Wrth hyn y’ch profir: Myn einioes Pharaoh, nid ewch allan oddi yma, onid trwy ddyfod o’ch brawd ieuangaf yma.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14A Joseph a ddywedodd wrthynt, Dyma yr hyn a adroddais wrth ych, gan ddywedyd, Ysbïwyr ydych chwi.
Cross References
Genesis 42:7A Joseph a ganfu ei frodyr, ac a’u hadnabu hwynt, ac a ymddïeithrodd iddynt hwy, ac a lefarodd wrthynt yn arw, ac a ddywedodd wrthynt, O ba le y daethoch? Hwythau a attebasant, O wlad Canaan, i brynu lluniaeth.
Genesis 42:16Hebryngwch un o honoch i gyrchu eich brawd, a rhwymer chwithau; fel y profer eich geiriau chwi, a oes gwirionedd ynoch: oblegid onid ê, myn einioes Pharaoh, ysbïwyr yn ddïau ydych chwi.
Genesis 42:30Dywedodd y gwr oedd arglwydd y wlad yn arw wrthym ni, ac a’n cymmerth ni fel ysbïwyr y wlad.
Genesis 43:3A Judah a attebodd, gan ddywedyd, Gan rybuddio y rhybuddiodd y gwr nyni, gan ddywedyd, Nac edrychwch yn fy wyneb, oni bydd eich brawd gyd â chwi.
Genesis 44:20Ninnau a ddywedasom wrth fy arglwydd, Y mae i ni dad, yn hen wr; a phlentyn ei henaint ef, un bychan: a’i frawd a fu farw, ac efe a adawyd ei hunan o’i fam ef; a’i dad sydd hoff ganddo ef.
Genesis 44:23Tithau a ddywedaist wrth dy weision. Oni ddaw eich brawd ieuangaf i waered gyd â chwi, nac edrychwch yn fy wyneb mwy.