The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 42

1Jacob yn gwrthod danfon Benjamin. Pan welodd Jacob fod ŷd yn yr Aipht, dywedodd Jacob wrth ei feibion, Paham yr edrychwch ar eich gilydd?

2Dywedodd hefyd, Wele, clywais fod ŷd yn yr Aipht: ewch i waered yno, a phrynwch i ni oddi yno, fel y bôm fyw, ac na byddom feirw.

3¶ A deg brawd Joseph a aethant i waered, i brynu ŷd, i’r Aipht.

4Ond ni ollyngai Jacob Benjamin, brawd Joseph, gyd â’i frodyr: oblegid efe a ddywedodd, Rhag digwydd niwed iddo ef.

5A meibion Israel a ddaethant i brynu ym mhlith y rhai oedd yn dyfod; oblegid yr ydoedd y newyn y’ngwlad Canaan.

6A Joseph oedd lywydd ar y wlad, ac oedd ei hun yn gwerthu i holl bobl y wlad: a brodyr Joseph a ddaethant, ac a ymgrymmasant i lawr iddo ef ar eu hwynebau.

7A Joseph a ganfu ei frodyr, ac a’u hadnabu hwynt, ac a ymddïeithrodd iddynt hwy, ac a lefarodd wrthynt yn arw, ac a ddywedodd wrthynt, O ba le y daethoch? Hwythau a attebasant, O wlad Canaan, i brynu lluniaeth.

8A Joseph oedd yn adnabod ei frodyr; ond nid oeddynt hwy yn ei adnabod ef.

9A Joseph a gofiodd ei freuddwydion a freuddwydiasai efe am danynt hwy, ac a ddywedodd wrthynt, Ysbïwyr ydych chwi; i edrych noethder y wlad y daethoch.

10Hwythau a ddywedasant wrtho ef, Nag ê, fy arglwydd; ond dy weision a ddaethant i brynu lluniaeth.

11Nyni oll ydym feibion un gwr: gwŷr cywir ydym ni; nid yw dy weision di ysbïwyr.

12Yntau a ddywedodd wrthynt hwy, Nag ê; ond i edrych noethder y wlad y daethoch.

13Hwythau a ddywedasant, Dy weision di oedd ddeuddeng mrodyr, meibion un gwr y’ngwlad Canaan: ac wele, y mae yr ieuangaf heddyw gyd â’n tad ni, a’r llall nid yw fyw.

14A Joseph a ddywedodd wrthynt, Dyma yr hyn a adroddais wrth ych, gan ddywedyd, Ysbïwyr ydych chwi.

15Wrth hyn y’ch profir: Myn einioes Pharaoh, nid ewch allan oddi yma, onid trwy ddyfod o’ch brawd ieuangaf yma.

16Hebryngwch un o honoch i gyrchu eich brawd, a rhwymer chwithau; fel y profer eich geiriau chwi, a oes gwirionedd ynoch: oblegid onid ê, myn einioes Pharaoh, ysbïwyr yn ddïau ydych chwi.

17Ac efe a’u rhoddodd hwynt i gyd y’ngharchar dridiau.

18Ac ar y trydydd dydd y dywedodd Joseph wrthynt, Gwnewch hyn, fel y byddoch fyw: ofni Duw yr wyf fi.

19Os gwŷr cywir ydych chwi, rhwymer un o’ch brodyr chwi yn eich carchardy; ac ewch chwithau, dygwch ŷd rhag newyn i’ch tylwyth.

20A dygwch eich brawd ieuangaf attaf ti; felly y cywirir eich geiriau chwi, ac ni byddwch feirw. Hwythau a wnaethant felly.

21¶ Ac a ddywedasant wrth eu gilydd, Dïau bechu o honom yn erbyn ein brawd; oblegid gweled a wnaethom gyfyngdra ei enaid ef, pan ymbiliodd efe â ni, ac ni wrandawsom ef: am hynny y daeth y cyfyngdra hwn arnom ni.

22A Reuben a’u hattebodd hwynt, gan ddywedyd, Oni ddywedais i wrthych, gan ddywedyd, Na phechwch yn erbyn yr herlod, ac ni wrandawech chwi? wele am hynny ynteu y gofynir ei waed ef.

23Ac nis gwyddynt hwy fod Joseph yn eu deall; am fod cyfieithydd rhyngddynt.

24Yntau a drodd oddi wrthynt, ac a wylodd, ac a ddaeth eilchwyl attynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymmerth o’u mysg hwynt Simeon, ac a’i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.

25¶ Joseph hefyd a orchymynodd lenwi eu sachau hwynt o ŷd, a rhoddi drachefn arian pob un o honynt yn ei sach, a rhoddi bwyd iddynt i’w fwytta ar y ffordd: ac felly y gwnaeth iddynt hwy.

26Hwythau a gyfodasant eu hŷd ar eu hasynod, ac a aethant oddi yno.

27Ac un a agorodd ei sach, ar fedr rhoddi ebran i’w asyn yn y lletty; ac a ganfu ei arian; canys wele hwynt y’ngenau ei ffettan ef.

28Ac a ddywedodd wrth ei frodyr, Rhoddwyd adref fy arian, ac wele hwynt hefyd yn fy ffettan: yna y digalonnasant hwy, ac a ofnasant, gan ddywedyd wrth ei gilydd, Paham y gwnaeth Duw i ni hyn?

29¶ A hwy a ddaethant at Jacob eu tad i wlad Canaan, ac a fynegasant iddo eu holl ddamweiniau, gan ddywedyd,

30Dywedodd y gwr oedd arglwydd y wlad yn arw wrthym ni, ac a’n cymmerth ni fel ysbïwyr y wlad.

31Ninnau a ddywedasom wrtho ef, Gwŷr cywir ydym ni, nid ysbïwyr ydym.

32Deuddeg o frodyr oeddym ni, meibion ein tad ni: un nid yw fyw, ac y mae yr ieuangaf heddyw gyd â’n tad ni y’ngwlad Canaan.

33A dywedodd y gwr oedd arglwydd y wlad wrthym ni, Wrth hyn y caf wybod mai cywir ydych chwi; gadêwch gyd â myfi un o’ch brodyr, a chymmerwch luniaeth i dorri newyn eich teuluoedd, ac ewch ymaith.

34A dygwch eich brawd ieuangaf attaf fi, fel y gwybyddwyf nad ysbïwyr ydych chwi, ond eich bod yn gywir: yna y rhoddaf eich brawd i chwi, a chewch farchnatta yn y wlad.

35¶ Fel yr oeddynt hwy yn tywallt eu sachau, yna wele godaid arian pob un yn ei sach: a phan welsant y codau arian, hwynt-hwy a’u tad, ofni a wnaethant.

36A Jacob, eu tad hwynt, a ddywedodd wrthynt hwy, Diblantasoch fi: Joseph nid yw fyw, a Simeon yntau nid yw fyw, a Benjamin a ddygech ymaith: yn fy erbyn i y mae hyn oll.

37A dywedodd Reuben wrth ei dad, gan ddywedyd, Lladd fy nau fab i, oni ddygaf ef drachefn attat ti: dyro ef yn fy llaw i, a mi a’i dygaf ef attat ti eilwaith.

38Yntau a ddywedodd, Nid â fy mab i waered gyd â chwi: oblegid bu farw ei frawd, ac yntau a adawyd ei hunan: pe digwyddai iddo ef niwed ar y ffordd yr ewch ar hyd-ddi, yna chwi a barech i’m penwynni ddisgyn i’r bedd mewn tristwch.

← Llyfr Genesis 41Read In The App, Free →Llyfr Genesis 43 →

Study Llyfr Genesis 42

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950