Llyfr Genesis 42:24
Yntau a drodd oddi wrthynt, ac a wylodd, ac a ddaeth eilchwyl attynt, ac a lefarodd wrthynt hwy, ac a gymmerth o’u mysg hwynt Simeon, ac a’i rhwymodd ef o flaen eu llygaid hwynt.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
23Ac nis gwyddynt hwy fod Joseph yn eu deall; am fod cyfieithydd rhyngddynt.
Cross References
Genesis 34:25¶ A bu ar y trydydd dydd, pan oeddynt hwy yn ddolurus, gymmeryd o ddau o feibion Jacob, Simeon a Lefi, brodyr Dinah, bob un ei gleddyf, a dyfod ar y ddinas yn hyderus, a lladd pob gwrryw.
Genesis 43:23Yntau a ddywedodd, Heddwch i chwi; nac ofnwch: eich Duw chwi, a Duw eich tad, a roddes i chwi drysor yn eich sachau; daeth eich arian chwi attaf fi. Ac efe a ddug Simeon allan attynt hwy.
Genesis 45:1Jacob yn ymlawenychu wrth y newyddion. Yna Joseph ni allodd ymattal ger bron y rhai oll oedd yn sefyll gyd âg ef: ac efe a lefodd, Perwch allan bawb oddi wrthyf. Yna nid arhosodd neb gyd âg ef, pan ymgydnabu Joseph a’i frodyr.
Genesis 45:14Ac efe a syrthiodd ar wddf ei frawd Benjamin, ac a wylodd; Benjamin hefyd a wylodd ar ei wddf yntau.
Isaiah 63:9Yn eu holl gystudd hwynt efe a gystuddiwyd, ac angel ei gynddrychiol-deb a’u hachubodd hwynt; yn ei gariad ac yn ei drugaredd y gwaredodd efe hwynt: efe a’u dygodd hwynt, ac a’u harweiniodd yr holl ddyddiau gynt. º
Romans 12:15Byddwch lawen gyda’r rhai sydd lawen, ac wylwch gyda’r rhai sydd yn wylo.