Llyfr Genesis 47:27
¶ Trigodd Israel hefyd y’ngwlad yr Aipht o fewn tir Gosen, ac a gawsant feddiannau ynddi; cynyddasant hefyd, ac amlhasant yn ddirfawr.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 8:7Ac efe a anfonodd allan gigfran; a hi a aeth, gan fyned allan a dychwelyd, hyd oni sychodd y dyfroedd oddi ar y ddaear.
Genesis 13:16Gwnaf hefyd dy had di fel llwch y ddaear; megis os dichon gwr rifo llwch y ddaear, yna y rhifir dy had dithau.
Genesis 26:4A mi a amlhâf dy had di fel sêr y nefoedd, a rhoddaf i’th had di yr holl wledydd hyn: a holl genhedlaethau y ddaear a fendithir yn dy had di:
Genesis 46:3Ac efe a ddywedodd, Myfi yw Duw, Duw dy dad: nac ofna fyned i waered i’r Aipht; canys gwnaf di yno yn genhedlaeth fawr.
Exodus 1:12Ond fel y gorthrymment hwynt, felly yr amlhâent, ac y cynnyddent: a drwg oedd ganddynt o herwydd plant Israel.
Deuteronomy 26:5A llefara dithau, a dywed ger bron yr Arglwydd dy Dduw, Syriad ar ddarfod am dano oedd fy nhad; ac efe a ddisgynodd i’r Aipht, ac a ymdeithiodd yno âg ychydig bobl, ac a aeth yno yn genedl fawr, gref, ac aml.