The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 47

1Mae efe yn peri i Joseph dyngu y claddai efe ef gyd â’i dadau. Yna y daeth Joseph ac a fynegodd i Pharaoh, ac a ddywedodd, Fy nhad, a’m brodyr, a’u defaid, a’u gwartheg, a’r hyn oll oedd ganddynt, a ddaethant o dir Canaan; ac wele hwynt yn nhir Gosen.

2Ac efe a gymmerth rai o’i frodyr, sef pùm nyn, ac a’u gosododd hwynt o flaen Pharaoh.

3A dywedodd Pharaoh wrth ei frodyr ef, Beth yw eich gwaith chwi? Hwythau a ddywedasant wrth Pharaoh, Bugeiliaid defaid yw dy weision, nyni a’n tadau hefyd.

4Dywedasant hefyd wrth Pharaoh, I orymdaith yn y wlad y daethom, am nad oes borfa i’r defaid gan dy weision; canys trwm yw y newyn y’ngwlad Canaan: ac yr awr hon, attolwg, caed dy weision drigo yn nhir Gosen.

5A llefarodd Pharaoh wrth Joseph, gan ddywedyd, Dy dad a’th frodyr a ddaethant attat.

6Tir yr Aipht sydd o’th flaen; cyflea dy dad a’th frodyr yn y man goreu yn y wlad; trigant yn nhir Gosen: ac os gwyddost fod yn eu mysg wŷr grymmus, gosod hwynt yn ben-bugeiliaid ar yr eiddof fi.

7A dug Joseph Jacob ei dad, ac a’i gosododd ger bron Pharaoh: a Jacob a fendithiodd Pharaoh.

8A dywedodd Pharaoh wrth Jacob, Pa faint yw dyddiau blynyddoedd dy einioes di?

9A Jacob a ddywedodd wrth Pharaoh, Dyddiau blynyddoedd fy ymdaith ydynt ddeg ar hugain a chàn mlynedd: ychydig a drwg fu dyddiau blynyddoedd fy einioes, ac ni chyrhaeddasant ddyddiau blynyddoedd einioes fy nhadau yn nyddiau eu hymdaith hwynt.

10A bendithiodd Jacob Pharaoh, ac a aeth allan o ŵydd Pharaoh.

11¶ A Joseph a gyfleodd ei dad a’i frodyr, ac a roddes iddynt feddiant y’ngwlad yr Aipht, y’nghwrr goreu y wlad, yn nhir Rameses, fel y gorchymynasai Pharaoh.

12Joseph hefyd a gynhaliodd ei dad, a’i frodyr, a holl dylwyth ei dad, â bara, yn ol eu teuluoedd.

13¶ Ac nid oedd bara yn yr holl wlad: canys y newyn oedd drwm iawn; fel yr oedd gwlad yr Aipht, a gwlad Canaan, yn dyddfu gan y newyn.

14Joseph hefyd a gasglodd yr holl arian a gawsid yn nhir yr Aipht, ac yn nhir Canaan, am yr ymborth a brynasent hwy: a Joseph a ddug yr arian i dŷ Pharaoh.

15Pan ddarfu yr arian yn nhir yr Aipht, ac y’ngwlad Canaan, yr holl Aiphtiaid a ddaethant at Joseph, gan ddywedyd, Moes i ni fara: canys paham y byddem ni feirw ger dy fron? o herwydd darfu yr arian.

16A dywedodd Joseph, Moeswch eich anifeiliaid; a rhoddaf i chwi am eich anifeiliaid, os darfu yr arian.

17A hwy a ddygasant eu hanifeiliaid at Joseph: a rhoddes Joseph iddynt fara am y meirch, ac am y dïadelloedd defaid, ac am y gyrroedd gwartheg, ac am yr asynod; ac a’u cynhaliodd hwynt â bara, am eu holl anifeiliaid, dros y flwyddyn honno.

18A phan ddarfu y flwyddyn honno, y daethant atto ef yr ail flwyddyn, ac a ddywedasant wrtho, Ni chelwn oddi wrth fy arglwydd ddarfod yr arian, a myned ein hysgrubliaid a’n hanifeiliaid at fy arglwydd; ni adawyd i ni ger bron fy arglwydd onid ein cyrff a’n tir.

19Paham y byddwn feirw o flaen dy lygaid, nyni a’n tir? pryn ni a’n tir am fara; a nyni a’n tir a fyddwn gaethion i Pharaoh: dod dithau i ni had, fel y byddom fyw, ac na fyddom feirw, ac na byddo y tir yn anghyfannedd.

20A Joseph a brynodd holl dir yr Aipht i Pharaoh: canys yr Aiphtiaid a werthasant bob un ei faes; oblegid y newyn a gryfhasai arnynt: felly yr aeth y tir i Pharaoh.

21Y bobl hefyd, efe a’u symmudodd hwynt i ddinasoedd, o’r naill gwrr i derfyn yr Aipht hyd ei chwrr arall.

22Yn unig tir yr offeiriaid ni phrynodd efe: canys rhan oedd i’r offeiriaid wedi ei phennu iddynt gan Pharaoh, a’u rhan a roddasai Pharaoh iddynt a fwyttasant hwy; am hynny ni werthasant hwy eu tir.

23Dywedodd Joseph hefyd wrth y bobl, Wele, prynais chwi heddyw, a’ch tir, i Pharaoh: wele i chwi had, heuwch chwithau y tir.

24A bydded i chwi roddi i Pharaoh y bummed ran o’r cnwd; a bydd y pedair rhan i chwi, yn had i’r maes, ac yn ymborth i chwi, ac i’r rhai sydd yn eich tai, ac yn fwyd i’ch rhai bach.

25A dywedasant, Cedwaist ni yn fyw: gâd i ni gael ffafr y’ngolwg fy arglwydd, a byddwn weision i Pharaoh.

26A Joseph a osododd hynny yn ddeddf hyd heddyw ar dir yr Aipht, gael o Pharaoh y bummed ran; ond o dir yr offeiriaid yn unig, yr hwn nid oedd eiddo Pharaoh.

27¶ Trigodd Israel hefyd y’ngwlad yr Aipht o fewn tir Gosen, ac a gawsant feddiannau ynddi; cynyddasant hefyd, ac amlhasant yn ddirfawr.

28Jacob hefyd a fu fyw yn nhir yr Aipht ddwy flynedd ar bymtheg; felly yr oedd dyddiau Jacob, sef blynyddoedd ei einioes ef, yn saith mlynedd a deugain a chàn mlynedd.

29A dyddiau Israel a nesasant i farw: ac efe a alwodd am ei fab Joseph, ac a ddywedodd wrtho, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg, gosod, attolwg, dy law dan fy morddwyd, a gwna â mi drugaredd a gwirionedd; na chladd fi, attolwg, yn yr Aipht:

30Eithr mi a orweddaf gyd â’m tadau; yna dwg fi allan o’r Aipht, a chladd fi yn eu beddrod hwynt. Yntau a ddywedodd, Mi a wnaf yn ol dy air.

31Ac efe a ddywedodd, Twng wrthyf. Ac efe a dyngodd wrtho. Yna Israel a ymgrymmodd ar ben y gwely.

← Llyfr Genesis 46Read In The App, Free →Llyfr Genesis 48 →

Study Llyfr Genesis 47

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950