Llyfr Genesis 49:29
Yna y gorchymynodd efe iddynt, ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a gesglir at fy mhobl: cleddwch fi gyd â’m tadau, yn yr ogof sydd ym maes Ephron yr Hethiad;
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 15:15A thi a âi at dy dadau mewn heddwch: ti a gleddir mewn henaint teg.
Genesis 23:20A sicrhâwyd y maes, a’r ogof yr hon oedd ynddo, i Abraham, yn feddiant beddrod, oddi wrth feibion Heth.
Genesis 25:9Ac Isaac ac Ismael ei feibion a’i claddasant ef yn ogof Machpelah, ym maes Ephron fab Sohar yr Hethiad, yr hwn sydd o flaen Mamre;
Genesis 35:29Ac Isaac a drengodd, ac a fu farw, ac a gasglwyd at ei bobl, yn hen, ac yn gyflawn o ddyddiau: a’i feibion, Esau a Jacob, a’i claddasant ef.
Genesis 50:12A’i feibion a wnaethant iddo megis y gorchymynasai efe iddynt.
2 Samuel 19:37Gad, atolwg, i’th was ddychwetyd yn fy ôl, fel y byddwyf marw yn fy ninas fy hun, ac fel y’m cladder ym meddrod fy-nhad a’m mam: ac wele, Chimham dy was, efe a â drosodd gyda’m harglwydd frenin, a gwna iddo yr hyn fyddo da yn dy olwg. º