The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 49

1ac yn marw. Yna y galwodd Jacob ar ei feibion, ac a ddywedodd, Ymgesglwch, fel y mynegwyf i chwi yr hyn a ddigwydda i chwi yn y dyddiau diweddaf.

2Ymgesglwch, a chlywch, meibion Jacob; ïe, gwrandêwch ar Israel eich tad.

3¶ Reuben fy nghynfab, tydi oedd fy ngrym, a dechreuad fy nerth, rhagoriaeth braint, a rhagoriaeth cryfder.

4Ansafadwy oeddit fel dwfr: ni ragori di; canys dringaist wely dy dad; yna yr halogaist ef: fy ngwely a ddringodd.

5¶ Simeon a Lefi sydd frodyr; offer creulondeb sydd yn eu hanheddau.

6Na ddeled fy enaid i’w cyfrinach hwynt: fy ngogoniant, na fydd un â’u cynnulleidfa hwynt: canys yn eu dig y lladdasant wr, ac o’u gwirfodd y diwreiddiasant gaer.

7Melltigedig fyddo eu dig, canys tost oedd; a’u llid, canys creulawn fu: rhannaf hwynt yn Jacob, a gwasgaraf hwynt yn Israel.

8¶ Tithau, Judah, dy frodyr a’th glodforant di: dy law fydd yng ngwar dy elynion; meibion dy dad a ymgrymmant i ti.

9Cenau llew wyt ti, Judah; o’r ysglyfaeth y daethost i fynu, fy mab: ymgrymmodd, gorweddodd fel llew, ac fel hen lew: pwy a’i cyfyd ef?

10Nid ymedy y deyrn-wïalen o Judah, na deddfwr oddi rhwng ei draed ef, hyd oni ddêl Seilo; ac atto ef y bydd cynhulliad pobloedd.

11Yn rhwymo ei ebol wrth y winwydden, a llwdn ei asyn wrth y bêr winwydden: golchodd ei wisg mewn gwin, a’i ddillad y’ngwaed y grawnwin.

12Coch fydd ei lygaid gan win, a gwỳn fydd ei ddannedd gan laeth.

13¶ Zabulon a breswylia ym mhorthleoedd y môr; ac efe a fydd yn borthladd llongau, a’i derfyn fydd hyd Sidon.

14¶ Issachar sydd asyn asgyrnog, yn gorwedd rhwng dau bwn.

15Ac a wêl lonyddwch mai da yw, a’r tir mai hyfryd: efe a ogwydda ei ysgwydd i ddwyn, ac a fydd yn gaeth dan deyrnged.

16¶ Dan a farn ei bobl fel un o lwythau Israel.

17Dan fydd sarph ar y ffordd, a neidr ar y llwybr; yn brathu sodlau y march, fel y syrthio ei farchog yn ol.

18Am dy iachawdwriaeth di y disgwyliais, Arglwydd.

19¶ Gad, llu a’i gorfydd; ac yntau a orfydd o’r diwedd.

20¶ O Aser bras fydd ei fwyd ef, ac efe a rydd ddanteithion brenhinol.

21¶ Naphtali fydd ewig wedi ei gollwng, yn rhoddi geiriau teg.

22¶ Joseph fydd gangen ffrwythlawn, cangen ffrwythlawn wrth ffynnon, ceingciau yn cerdded ar hyd mur.

23A’r saethyddion fuant chwerw wrtho ef, ac a saethasant, ac a’i casasant ef.

24Er hynny arhôdd ei fwa ef yn gryf, a breichiau ei ddwylaw a gryfhasant, trwy ddwylaw grymmus Dduw Jacob: oddi yno y mae y bugail, maen Israel:

25Trwy Dduw dy dad, yr hwn a’th gynnorthwya, a’r Hollalluog, yr hwn a’th fendithia â bendithion y nefoedd oddi uchod, â bendithion y dyfnder yn gorwedd isod, â bendithion y bronnau a’r groth.

26Rhagorodd bendithion dy dad ar fendithion fy rhïeni, hyd derfyn bryniau tragywyddoldeb: byddant ar ben Joseph, ac ar goryn yr hwn a neillduwyd oddi wrth ei frodyr.

27¶ Benjamin a ysglyfaetha fel blaidd: y bore y bwytty’r ysglyfaeth, a’r hwyr y rhan yr yspail.

28¶ Dyma ddeuddeg llwyth Israel oll, a dyma yr hyn a lefarodd eu tad wrthynt, ac y bendithiodd efe hwynt: pob un yn ol ei fendith y bendithiodd efe hwynt.

29Yna y gorchymynodd efe iddynt, ac a ddywedodd wrthynt, Myfi a gesglir at fy mhobl: cleddwch fi gyd â’m tadau, yn yr ogof sydd ym maes Ephron yr Hethiad;

30Yn yr ogof sydd ym maes Machpelah, yr hon sydd o flaen Mamre, y’ngwlad Canaan, yr hon a brynodd Abraham gyd â’r maes gan Ephron yr Hethiad, yn feddiant beddrod.

31Yno y claddasant Abraham a Sarah ei wraig; yno y claddasant Isaac a Rebeccah ei wraig; ac yno y cleddais i Leah.

32Meddiant y maes, a’r ogof sydd ynddo, a gaed gan feibion Heth.

33Pan orphenodd Jacob orchymyn i’w feibion, efe a dynnodd ei draed i’r gwely, ac a fu farw; a chasglwyd ef at ei bobl.

← Llyfr Genesis 48Read In The App, Free →Llyfr Genesis 50 →

Study Llyfr Genesis 49

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950