Llyfr Genesis 50:11
Pan welodd y Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad, y galar yn llawr-dyrnu Atad, yna y dywedasant, Dyma alar trwm gan yr Aiphtiaid: am hynny y galwasant ei enw Abel-Misraim, yr hwn sydd dros yr Iorddonen.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
12A’i feibion a wnaethant iddo megis y gorchymynasai efe iddynt.
Cross References
Genesis 13:7Cynnen hefyd oedd rhwng bugeilydd anifeiliaid Abram a bugeilydd anifeiliaid Lot: y Canaaneaid hefyd a’r Phereziaid oedd yna yn trigo yn y wlad.
Genesis 34:30A Jacob a ddywedodd wrth Simeon a Lefi, Trallodasoch fi, gan beri i mi fod yn ffiaidd gan breswylwyr y wlad, gan y Canaaneaid, a’r Phereziaid: a minnau yn ychydig o nifer; a hwy a ymgasglant yn fy erbyn, a thrawant fi: felly y difethir fi, mi a’m tŷ.
Deuteronomy 3:25Gâd i mi fyned drosodd, attolwg, a gweled y wlad dda sydd dros yr Iorddonen, a’r mynydd da hwnnw, a Libanus.
Deuteronomy 11:30Onid yw y rhai hyn o’r tu hwnt i’r Iorddonen, tu a’r lle y machluda yr haul, yn nhir y Canaaneaid, yr hwn sydd yn trigo yn y rhos ar gyfer Gilgal, ger llaw gwastadedd Moreh?