The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 50

1yn marw, ac yn cael ei roddi mewn arch. Yna y syrthiodd Joseph ar wyneb ei dad, ac a wylodd arno ef, ac a’i cusanodd ef.

2Gorchymynodd Joseph hefyd i’w weision, y meddygon, bêr-arogli ei dad ef: felly y meddygon a bêr-aroglasant Israel.

3Pan gyflawnwyd iddo ddeugain niwrnod, (canys felly y cyflawnir dyddiau y rhai a bêr-aroglir,) yna yr Aiphtiaid a’i harwylasant ef ddeng niwrnod a thri ugain.

4Pan aeth dyddiau ei arwyl ef heibio, yna y llefarodd Joseph wrth deulu Pharaoh, gan ddywedyd, Os cefais yr awr hon ffafr yn eich golwg, lleferwch wrth Pharaoh, attolwg, gan ddywedyd,

5Fy nhad a’m tyngodd, gan ddywedyd, Wele fi yn marw: yn fy medd yr hwn a gloddiais i mi yng ngwlad Canaan, yno y’m cleddi. Ac yr awr hon caffwyf fyned i fynu, attolwg, fel y claddwyf fy nhad; yna mi a ddychwelaf.

6A dywedodd Pharaoh, Dos i fynu, a chladd dy dad, fel y’th dyngodd.

7¶ A Joseph a aeth i fynu i gladdu ei dad: a holl weision Pharaoh, sef henuriaid ei dŷ ef, a holl henuriaid gwlad yr Aipht, a aethant i fynu gyd âg ef,

8A holl dŷ Joseph, a’i frodyr, a thŷ ei dad: eu rhai bach yn unig, a’u defaid a’u gwartheg, a adawsant yn nhir Gosen.

9Ac aeth i fynu gyd âg ef gerbydau, a gwŷr meirch hefyd: ac yr oedd yn llu mawr iawn.

10A hwy a ddaethant hyd lawr-dyrnu Atad, yr hwn sydd dros yr Iorddonen; ac a alarasant yno alar mawr, a thrwm iawn: canys gwnaeth alar dros ei dad saith niwrnod.

11Pan welodd y Canaaneaid, y rhai oedd yn preswylio yn y wlad, y galar yn llawr-dyrnu Atad, yna y dywedasant, Dyma alar trwm gan yr Aiphtiaid: am hynny y galwasant ei enw Abel-Misraim, yr hwn sydd dros yr Iorddonen.

12A’i feibion a wnaethant iddo megis y gorchymynasai efe iddynt.

13Canys ei feibion a’i dygasant ef i wlad Canaan, ac a’i claddasant ef yn ogof maes Machpelah: yr hon a brynasai Abraham gyd â’r maes, yn feddiant beddrod, gan Ephron yr Hethiad, o flaen Mamre.

14¶ A dychwelodd Joseph i’r Aipht, efe, a’i frodyr, a’r rhai oll a aethant i fynu gyd âg ef i gladdu ei dad, wedi iddo gladdu ei dad.

15¶ Pan welodd brodyr Joseph farw o’u tad, hwy a ddywedasant, Joseph ond odid a’n casâ ni, a chan dalu a dâl i ni yr holl ddrwg a wnaethom ni iddo ef.

16A hwy a anfonasant at Joseph i ddywedyd, Dy dad a orchymynodd o flaen ei farw, gan ddywedyd,

17Fel hyn y dywedwch wrth Joseph; Attolwg, maddau yr awr hon gamwedd dy frodyr, a’u pechod hwynt, canys gwnaethant i ti ddrwg: ond yr awr hon, maddau, attolwg, gamwedd gweision Duw dy dad. Ac wylodd Joseph pan lefarasant wrtho.

18A’i frodyr a ddaethant hefyd, ac a syrthiasant ger ei fron ef, ac a ddywedasant, Wele ni yn weision i ti.

19A dywedodd Joseph wrthynt, Nac ofnwch, canys a ydwyf fi yn lle Duw?

20Chwi a fwriadasoch ddrwg i’m herbyn; ond Duw a’i bwriadodd i ddaioni, i ddwyn i ben, fel y gwelir heddyw, i gadw yn fyw bobl lawer.

21Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a’ch cynhaliaf chwi, a’ch rhai bach. Ac efe a’u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.

22¶ A Joseph a drigodd yn yr Aipht, efe, a theulu ei dad: a bu Joseph fyw gàn mlynedd a deg.

23Gwelodd Joseph hefyd, o Ephraim, orwyrion: maethwyd hefyd blant Machir, fab Manasseh, ar liniau Joseph.

24A dywedodd Joseph wrth ei frodyr, Myfi sydd yn marw: a Duw gan ymweled a ymwêl â chwi, ac a’ch dwg chwi i fynu o’r wlad hon, i’r wlad a dyngodd efe i Abraham, i Isaac, ac i Jacob.

25A thyngodd Joseph feibion Israel, gan ddywedyd, Duw gan eich gofwyo a’ch gofwya chwi; dygwch chwithau fy esgyrn i fynu oddi yma.

26A Joseph a fu farw yn fab deng mlwydd a chant: a hwy a’i pêr-aroglasant ef; ac efe a osodwyd mewn arch yn yr Aipht.

← Llyfr Genesis 49Read In The App, Free →Exodus 1 →

Study Llyfr Genesis 50

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950