Llyfr Genesis 50:21
Am hynny, nac ofnwch yr awr hon: myfi a’ch cynhaliaf chwi, a’ch rhai bach. Ac efe a’u cysurodd hwynt, ac a lefarodd wrth fodd eu calon.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
22¶ A Joseph a drigodd yn yr Aipht, efe, a theulu ei dad: a bu Joseph fyw gàn mlynedd a deg.
Cross References
Genesis 34:3A’i enaid ef a lynodd wrth Dinah merch Jacob, ïe, efe a hoffodd y llangces, ac a ddywedodd wrth fodd calon y llangces.
Genesis 45:10A chei drigo y’ngwlad Gosen, a bod yn agos attaf fi, ti a’th feibion, a meibion dy feibion, a’th ddefaid, a’th wartheg, a’r hyn oll sydd gennyt:
Genesis 47:12Joseph hefyd a gynhaliodd ei dad, a’i frodyr, a holl dylwyth ei dad, â bara, yn ol eu teuluoedd.
Isaiah 40:2Dywedwch wrth fodd calon Jerwsalem, llefwch wrthi hi, gyflawni ei milwriaeth, ddileu ei hanwiredd: oherwydd derbyniodd o law yr ARGLWYDD yn ddauddyblyg am ei holl bechodau. º
Matthew 6:14Oblegid os maddeuwch i ddynion eu camweddau, eich Tad nefol a faddau hefyd i chwithau: