Llyfr Genesis 50:25
A thyngodd Joseph feibion Israel, gan ddywedyd, Duw gan eich gofwyo a’ch gofwya chwi; dygwch chwithau fy esgyrn i fynu oddi yma.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 47:29A dyddiau Israel a nesasant i farw: ac efe a alwodd am ei fab Joseph, ac a ddywedodd wrtho, O chefais yn awr ffafr yn dy olwg, gosod, attolwg, dy law dan fy morddwyd, a gwna â mi drugaredd a gwirionedd; na chladd fi, attolwg, yn yr Aipht:
Genesis 50:5Fy nhad a’m tyngodd, gan ddywedyd, Wele fi yn marw: yn fy medd yr hwn a gloddiais i mi yng ngwlad Canaan, yno y’m cleddi. Ac yr awr hon caffwyf fyned i fynu, attolwg, fel y claddwyf fy nhad; yna mi a ddychwelaf.
Exodus 13:19A Moses a gymmerodd esgyrn Joseph gyd âg ef: o herwydd efe a wnelsai i feibion Israel dyngu trwy lw, gan ddywedyd, Duw a ymwêl â chwi yn ddïau; dygwch chwithau fy esgyrn oddi yma gyd â chwi.
Ruth 1:6A hi a gyfododd, a’i merched yng nghyfraith, i ddychwelyd o wlad Moab: canys hi a glywsai yng ngwlad Moab ddarfod i’r ARGLWYDD ymweled â’i bobl gan roddi iddynt fara.
Hebrews 11:22Trwy ffydd, Joseff, wrth farw, a goffaodd am ymadawiad plant Israel; ac a roddodd orchymyn am ei esgyrn.