Llyfr Genesis 7:4
Oblegid wedi saith niwrnod etto, mi a wlawiaf ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos: a mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaear bob peth byw a’r a wneuthum i.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
5A Noah a wnaeth yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd iddo.
Cross References
Genesis 6:3A dywedodd yr Arglwydd, Nid ymrysona fy Yspryd i â dyn yn dragywydd, oblegid mai cnawd yw efe; a’i ddyddiau fyddant ugain mlynedd a chant.
Genesis 6:13A Duw a ddywedodd wrth Noah, Diwedd pob cnawd a ddaeth ger fy mron: oblegid llanwyd y ddaear â thrawsedd trwyddynt hwy: ac wele myfi a’u difethaf hwynt gyd â’r ddaear.
Genesis 7:10Ac wedi saith niwrnod y dwfr diluw a ddaeth ar y ddaear.
Genesis 7:17A’r diluw fu ddeugain niwrnod ar y ddaear; a’r dyfroedd a gynnyddasant, ac a godasant yr arch, a hi a godwyd oddi ar y ddaear.
Genesis 8:10Ac efe a arhosodd etto saith niwrnod eraill, ac a anfonodd eilwaith y golommen allan o’r arch.
Genesis 29:27Cyflawna di wythnos hon, a ni a roddwn i ti hon hefyd, am y gwasanaeth a wasanaethi gyd â mi etto saith mlynedd eraill.