The Bible Software
Llyfr Genesis · Beibl (1620)

Llyfr Genesis 7

1Dechreuad, cynnydd, a pharhâd y diluw. Yna y dywedodd yr Arglwydd wrth Noah, Dos di, a’th holl dŷ i’r arch: canys tydi a welais i yn gyfiawn ger fy mron i yn yr oes hon.

2O bob anifail glân y cymmeri gyd â thi bob yn saith, y gwrryw a’i fenyw; a dau o’r anifeiliaid y rhai nid ydynt lân, y gwrryw a’i fenyw:

3O ehediaid y nefoedd hefyd, bob yn saith, yn wrryw ac yn fenyw, i gadw had yn fyw ar wyneb yr holl ddaear.

4Oblegid wedi saith niwrnod etto, mi a wlawiaf ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos: a mi a ddileaf oddi ar wyneb y ddaear bob peth byw a’r a wneuthum i.

5A Noah a wnaeth yn ol yr hyn oll a orchymynasai yr Arglwydd iddo.

6Noah hefyd oedd fab chwe chàn mlwydd pan fu y dyfroedd diluw ar y ddaear.

7¶ A Noah a aeth i mewn, a’i feibion, a’i wraig, a gwragedd ei feibion gyd âg ef, i’r arch, rhag y dwfr diluw.

8O anifeiliaid glân, ac o anifeiliaid y rhai nid oeddynt lân, o ehediaid hefyd, ac o’r hyn oll a ymlusgai ar y ddaear,

9Yr aeth i mewn at Noah i’r arch bob yn ddau, yn wrryw ac yn fenyw, fel y gorchymynasai Duw i Noah.

10Ac wedi saith niwrnod y dwfr diluw a ddaeth ar y ddaear.

11¶ Yn y chwe chanfed flwyddyn o fywyd Noah, yn yr ail mis, ar yr ail dydd ar bymtheg o’r mis, ar y dydd hwnnw y rhwygwyd holl ffynhonnau y dyfnder mawr, a ffenestri y nefoedd a agorwyd.

12A’r gwlaw fu ar y ddaear ddeugain niwrnod a deugain nos.

13O fewn corph y dydd hwnnw y daeth Noah, a Sem, a Cham, a Japheth, meibion Noah, a gwraig Noah, a thair gwragedd ei feibion ef gyd â hwynt, i’r arch.

14Hwynt, a phob bwystfil wrth ei rywogaeth, a phob anifail wrth ei rywogaeth, a phob ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear wrth ei rywogaeth, a phob ehediad wrth ei rywogaeth, pob aderyn o bob rhyw.

15A daethant at Noah i’r arch bob yn ddau, o bob cnawd a’r oedd ynddo anadl einioes.

16A’r rhai a ddaethant, yn wrryw a benyw y daethant o bob cnawd, fel y gorchymynasai Duw iddo. A’r Arglwydd a gauodd arno ef.

17A’r diluw fu ddeugain niwrnod ar y ddaear; a’r dyfroedd a gynnyddasant, ac a godasant yr arch, a hi a godwyd oddi ar y ddaear.

18A’r dyfroedd a ymgryfhasant, ac a gynnyddasant yn ddirfawr ar y ddaear; a’r arch a rodiodd ar wyneb y dyfroedd.

19A’r dyfroedd a ymgryfhasant yn ddirfawr iawn ar y ddaear, a gorchuddiwyd yr holl fynyddoedd uchel oedd tan yr holl nefoedd.

20Pymtheg cufydd yr ymgryfhaodd y dyfroedd tu ag i fynu: a’r mynyddoedd a orchuddiwyd.

21A bu farw pob cnawd a ymlusgai ar y ddaear, yn ehediaid, ac yn anifeiliaid, ac yn fwystfilod, ac yn bob rhyw ymlusgiad a ymlusgai ar y ddaear, a phob dyn hefyd.

22Yr hyn oll yr oedd ffun anadl einioes yn ei ffroenau, o’r hyn oll oedd ar y sychdir, a fuant feirw.

23Ac efe a ddileodd bob sylwedd byw a’r a oedd ar wyneb y ddaear, yn ddyn ac yn anifail, yn ymlusgiaid, ac yn ehediaid y nefoedd; ïe, dilëwyd hwynt o’r ddaear: a Noah a’r rhai oedd gyd âg ef yn yr arch, yn unig, a adawyd yn fyw.

24A’r dyfroedd a ymgryfhasant ar y ddaear ddeng niwrnod a deugain a chant.

← Llyfr Genesis 6Read In The App, Free →Llyfr Genesis 8 →

Study Llyfr Genesis 7

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314151617181920212223242526272829303132333435363738394041424344454647484950