The Bible Software
Llyfr Haggai · Beibl (1620)

Llyfr Haggai 1

1Yn yr ail flwyddyn i'r brenin Dareius, yn y chweched mis, ar y dydd cyntaf o'r mis, y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd at Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac at Josua mab Josedec yr archoffeiriad, gan ddywedyd,

2Fel hyn y llefara ARGLWYDD y lluoedd, gan ddywedyd, Y bobl hyn a ddywedant, Ni ddaeth yr amser, yr amser i adeiladu tŷ yr ARGLWYDD.

3Yna y daeth gair yr ARGLWYDD trwy law Haggai y proffwyd, gan ddywedyd,

4Ai amser yw i chwi eich hunain drigo yn eich tai byrddiedig, a'r tŷ hwn yn anghyfannedd?

5Fel hyn gan hynny yn awr y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ystryiwch eich ffyrdd.

6Heuasoch lawer, a chludasoch ychydig; bwyta yr ydych, ond nid hyd ddigon; yfed, ac nid hyd fod yn ddiwall; ymwisgasoch, ac nid hyd glydwr i neb, a'r hwn a enillo gyflog, sydd yn casglu cyflog i god dyllog.

7Fel hyn y dywed ARGLWYDD y lluoedd; Ystyriwch eich ffyrdd.

8Esgynnwch i'r mynydd, a dygwch goed, ac adeiledwch y tŷ; mi a ymfodlonaf ynddo, ac y'm gogoneddir, medd yr ARGLWYDD.

9Edrychasoch am lawer, ac wele, yr oedd yn ychydig; a phan ei dygasoch adref, chwythais arno. Am ba beth? medd ARGLWYDD y lluoedd. Am fy nhŷ i, yr hwn sydd yn anghyfannedd, a chwithau yn rhedeg bawb i'w dŷ ei hun.

10Am hynny gwaharddwyd i'r nefoedd oddi arnoch wlitho, a gwaharddwyd i'r ddaear roddi ei ffrwyth.

11Gelwais hefyd am sychder ar y ddaear, ac ar y mynyddoedd, ac ar yr ŷ d ac ar y gwin, ac ar yr olew, ac ar yr hyn a ddwg y ddaear allan; ar ddyn hefyd, ac ar anifail, ac ar holl lafur dwylo,

12Yna y gwrandawodd Sorobabel mab Salathiel, a Josua mab Josedec yr archoffeiriad, a holl weddill y bobl, ar lais yr ARGLWYDD eu DUW, ac ar eiriau Haggai y proffwyd, megis yr anfonasai eu HARGLWYDD DDUW hwynt ef; a'r bobl a ofnasant gerbron yr ARGLWYDD.

13Yna Haggai cennad yr ARGLWYDD a lefarodd trwy genadwri yr ARGLWYDD wrth y bobl, gan ddywedyd, Yr wyf fi gyda chwi, medd yr ARGLWYDD.

14Felly y cynhyrfodd yr ARGLWYDD ysbryd Sorobabel mab Salathiel tywysog Jwda, ac ysbryd Josua mab Josedec yr archoffeiriad, ac ysbryd holl weddill y bobl, a hwy a ddaethant ac a weithiasant y gwaith yn nhŷ ARGLWYDD y lluoedd eu DUW hwynt,

15Y pedwerydd dydd ar hugain o'r chweched mis, yn yr ail flwyddyn i Dareius y brenin.

← Llyfr Seffaneia 3Read In The App, Free →Llyfr Haggai 2 →

Study Llyfr Haggai 1

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12