Y Llythyr at yr Hebreaid 11:27
Trwy ffydd y gadawodd efe yr Aifft, heb ofni llid y brenin: canys efe a ymwrolodd fel un yn gweled yr anweledig.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 11
Cross References
Exodus 4:19A’r Arglwydd a ddywedodd wrth Moses ym Midian, Dos, dychwel i’r Aipht; o herwydd bu feirw yr holl wŷr oedd yn ceisio dy einioes.
Exodus 11:8A’th holl weision hyn a ddeuant i waered attaf fi, ac a ymgrymmant i mi, gan ddywedyd, Dos allan, a’r holl bobl sydd ar dy ol; ac wedi hynny yr âf fi allan. Felly efe a aeth allan oddi wrth Pharaoh mewn digllonedd llidiog.
Exodus 12:37¶ A meibion Israel a aethant o Rameses i Succoth, y’nghylch chwe chàn mil o wŷr traed, heb law plant.
Exodus 13:17¶ A phan ollyngodd Pharaoh y bobl, ni arweiniodd yr Arglwydd hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos: oblegid dywedodd Duw, Rhag i’r bobl edifarhâu pan welant ryfel, a dychwelyd i’r Aipht.
Matthew 24:13Eithr y neb a barhao hyd y diwedd, hwnnw a fydd cadwedig.