Llyfr Exodus 13:17
¶ A phan ollyngodd Pharaoh y bobl, ni arweiniodd yr Arglwydd hwynt trwy ffordd gwlad y Philistiaid, er ei bod yn agos: oblegid dywedodd Duw, Rhag i’r bobl edifarhâu pan welant ryfel, a dychwelyd i’r Aipht.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Exodus 14:10¶ A phan nesaodd Pharaoh, meibion Israel a godasant eu golwg; ac wele yr Aiphtiaid yn dyfod ar eu hol; a hwy a ofnasant yn ddirfawr: a meibion Israel a waeddasant ar yr Arglwydd.
Exodus 16:2A holl gynnulleidfa meibion Israel a duchanasant yn erbyn Moses ac Aaron, yn yr anialwch.
Deuteronomy 17:16Ond nac amlhâed iddo feirch, ac na ddychweled efe y bobl i’r Aipht i amlhâu meirch; gan i’r Arglwydd ddywedyd wrthych, Na chwanegwch ddychwelyd y ffordd honno mwy.
Deuteronomy 28:68A’r Arglwydd a’th ddychwel di i’r Aipht, mown llongau, ar hyd y ffordd y dywedais wrthyt, na chwanegit ei gweled mwy: a chwi a ymwerthwch yno i’ch gelynion yn gaeth-weision ac yn gaeth-forwynion, ac ni bydd a’ ch pryno.
1 Kings 8:47Os dychwelant at eu calon yn y wlad y caethgludwyd hwynt iddi, a dychwelyd, ac crfyn arnat yng ngwlad y rhai a’u caethgludasant, gan ddywedyd, Pechasom, troseddasom hefyd, a gwnaethom yn annuwiol; º
Luke 14:27A phwy bynnag ni ddyco ei groes, a dyfod ar fy ôl i, ni all efe fod yn ddisgybl i mi.