Y Llythyr at yr Hebreaid 13:15
Trwyddo ef gan hynny offrymwn aberth moliant yn wastadol i Dduw, yr hyn yw ffrwyth ein gwefusau yn cyffesu i’w enw ef.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
14Canys nid oes i ni yma ddinas barhaus, eithr un i ddyfod yr ym ni yn ei disgwyl.
16Ond gwneuthur daioni, a chyfrannu, nac anghofiwch: canys â chyfryw ebyrth y rhyngir binid Duw.
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 13
Cross References
Leviticus 7:12Os yn lle dïolch yr offrymma efe hyn; offrymmed gyd â’r aberth dïolch deisennau croyw, wedi eu cymmysgu trwy olew; ac afrllad croyw, wedi eu hiro âg olew; a pheilliaid wedi ei grasu yn deisennau, wedi eu cymmysgu âg olew.
2 Chronicles 7:6A’r offeiriaid oedd yn sefyll yn eu goruchwyliaeth: a’r Lefiaid ag offer cerdd yr ARGLWYDD, y rhai a wnaethai Dafydd y brenin i gyffesu yr ARGLWYDD, oherwydd yn dragywydd y mae ei drugaredd ef, pan oedd Dafydd yn moliannu Duw trwyddynt hwy: a’r offeiriaid oedd yn utganu ar eu cyfer hwynt, a holl Israel oedd yn sefyll.
2 Chronicles 33:16Ac efe a gyweiriodd allor yr AR¬GLWYDD, ac a aberthodd arni hi ebyrth hedd a moliant, dywedodd hefyd wrth Jwda am wasanaethu ARGLWYDD DDUW Israel.
Nehemiah 12:40Felly y ddwy fintai, y rhai oedd yn moliannu, a safasant yn nhŷ DDUW, a minnau, a hanner y swyddogion gyda mi: