The Bible Software
Y Llythyr at yr Hebreaid · Beibl (1620)

Y Llythyr at yr Hebreaid 4

1Ofnwn gan hynny, gan fod addewid wedi ei adael i ni i fyned i mewn i’w orffwysfa ef, rhag bod neb ohonoch yn debyg i fod yn ôl.

2Canys i ninnau y pregethwyd yr efengyl, megis ag iddynt hwythau: eithr y gair a glybuwyd ni bu fuddiol iddynt hwy, am nad oedd wedi ei gyd-dymheru â ffydd yn y rhai a’i clywsant.

3Canys yr ydym ni, y rhai a gredasom, yn myned i mewn i’r orffwysfa, megis y dywedodd efe, Fel y tyngais yn fy llid, Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i: er bod y gweithredoedd wedi eu gwneuthur er seiliad y byd.

4Canys efe a ddywedodd mewn man am y seithfed dydd fel hyn; A gorffwysodd Duw y seithfed dydd oddi wrth ei holl weithredoedd.

5Ac yma drachefn, Os ânt i mewn i’m gorffwysfa i.

6Gan hynny, gan fod hyn wedi ei adael, fod rhai yn myned i mewn iddi, ac nad aeth y rhai y pregethwyd yn gyntaf iddynt i mewn, oherwydd anghrediniaeth;

7Trachefn, y mae efe yn pennu rhyw ddiwrnod, gan ddywedyd yn Dafydd, Heddiw, ar ôl cymaint o amser; megis y dywedir, Heddiw, os gwrandewch ar ei leferydd ef, na chaledwch eich calonnau.

8Canys pe dygasai Jesus hwynt i orffwysfa, ni soniasai efe ar ôl hynny am ddiwrnod arall.

9Y mae gan hynny orffwysfa eto yn ôl i bobl Dduw.

10Canys yr hwn a aeth i mewn i’w orffwysfa ef, hwnnw hefyd a orffwysodd oddi wrth ei weithredoedd ei hun, megis y gwnaeth Duw oddi wrth yr eiddo yntau.

11Byddwn ddyfal gan hynny i fyned i mewn i’r orffwysfa honno, fel na syrthio i neb yn ôl yr un siampl o anghrediniaeth.

12Canys bywiol yw gair Duw, a nerthol, a llymach nag un cleddyf daufiniog, ac yn cyrhaeddyd trwodd hyd wahaniad yr enaid a’r ysbryd, a’r cymalau a’r mêr; ac yn barnu meddyliau a bwriadau’r galon.

13Ac nid oes greadur anamlwg yn ei olwg ef: eithr pob peth sydd yn noeth ac yn agored i’w lygaid ef am yr hwn yr ydym yn son.

14Gan fod wrth hynny i ni Archoffeiriad mawr, yr hwn a aeth i’r nefoedd, Iesu Mab Duw, glynwn yn ein proffes. l 5 Canys nid oes i ni Archoffeiriad heb fedru cyd-ddioddef gyda’n gwendid ni; ond wedi ei demtio ym mhob peth yr un ffunud a ninnau, eto heb bechod.

15

16Am hynny awn yn hyderus at orseddfainc y gras, fel y derbyniom drugaredd, ac y caffom ras yn gymorth cyfamserol.

← Y Llythyr at yr Hebreaid 3Read In The App, Free →Y Llythyr at yr Hebreaid 5 →

Study Y Llythyr at yr Hebreaid 4

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeAlbert BarnesJohn WesleyJohn CalvinScofieldWilliam BurkittFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

12345678910111213