Y Llythyr at yr Hebreaid 9:22
A chan mwyaf trwy waed y purir pob peth wrth y gyfraith; ac heb ollwng gwaed nid oes maddeuant.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
21Y tabernacl hefyd a holl lestri’r gwasanaeth a daenellodd efe a gwaed yr un modd.
Read all of Y Llythyr at yr Hebreaid 9
Cross References
Leviticus 4:26A llosged ei holl wer ar yr allor, fel gwer yr aberth hedd: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei bechod; a maddeuir iddo.
Leviticus 5:10A’r ail a wna efe yn offrwm poeth, yn ol y ddefod: a’r offeiriad a wna gymmod drosto am ei bechod yr hwn a bechodd; a maddeuir iddo.
Leviticus 5:18A dyged hwrdd perffeith-gwbl o’r praidd, gyd â’th bris di, at yr offeiriad, yn offrwm dros gamwedd: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei amryfusedd a gamgymmerodd efe, ac yntau heb wybod; a maddeuir iddo.
Leviticus 14:6A chymmered efe yr aderyn byw, a’r coed cedr, a’r ysgarlad, a’r isop, a throched hwynt a’r aderyn byw hefyd y’ngwaed yr aderyn a laddwyd oddi ar y dwfr rhedegog.
Leviticus 14:25A lladded oen yr offrwm dros gamwedd; a chymmered yr offeiriad o waed yr offrwm dros gamwedd, a rhodded ar gwrr isaf clust ddehau yr hwn a lanhêir, ac ar fawd ei law ddehau, ac ar fawd ei droed dehau.
Leviticus 17:11O herwydd einioes y cnawd sydd yn y gwaed, a mi a’i rhoddais i chwi ar yr allor, i wneuthur cymmod dros eich eneidiau; o herwydd y gwaed hwn a wna gyfaod dros yr enaid.