Llyfr Lefiticus 5:18
A dyged hwrdd perffeith-gwbl o’r praidd, gyd â’th bris di, at yr offeiriad, yn offrwm dros gamwedd: a gwnaed yr offeiriad gymmod drosto am ei amryfusedd a gamgymmerodd efe, ac yntau heb wybod; a maddeuir iddo.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
19Aberth dros gamwedd yw hyn: camwedd a wnaeth yn ddïau yn erbyn yr Arglwydd.
Cross References
Leviticus 1:3Os poeth-offrwm o eidion fydd ei offrwm ef, offrymmed ef yn wrryw perffeith-gwbl; a dyged ef o’i ewyllys ei hun i ddrws pabell y cyfarfod, ger bron yr Arglwydd.
Leviticus 4:20A gwnaed i’r bustach hwn megis y gwnaeth i fustach y pech-aberth; felly gwnaed iddo: a’r offeiriad a wna gymmod drostynt; ac fe a faddeuir iddynt.
Leviticus 6:6A dyged i’r Arglwydd ei offrwm dros gamwedd, hwrdd perffeith-gwbl o’r praidd, gyd â’th bris di, yn offrwm dros gamwedd, at yr offeiriad.