Llyfr Hosea 13:15
Er ei fod yn ffrwythlon ymysg ei frodyr, daw gwynt y dwyrain, gwynt yr ARGLWYDD o’r anialwch a ddyrchafa, a’i ffynhonnell a sych, a’i ffynnon a â yn hesb: efe a ysbeilia drysor pob llestr dymunol.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
Genesis 41:23Ac wele saith o dywys mân, teneuon, wedi deifio gan ddwyreinwynt, yn tyfu ar eu hol hwynt.
Genesis 48:19A’i dad a ommeddodd, ac a ddywedodd, Mi a wn, fy mab, mi a wn: bydd hwn hefyd yn bobl, a mawr fydd hwn hefyd, ond yn wir ei frawd ieuangaf fydd mwy nag ef, a’i had ef fydd yn llïaws o genhedloedd.
Deuteronomy 33:17Ei brydferthwch sydd debyg i gyntaf-anedig ei ŷch, a’i gyrn ef sydd gyrn unicorn: â hwynt y cornia efe y bobl ynghyd hyd eithafoedd y ddaear: a dyma fyrddiwn Ephraim, ïe, dyma filoedd Manasseh.
Psalms 1:4Nid felly y bydd yr annuwiol; ond fel mân us yr hwn a chwal y gwynt ymaith.
Isaiah 14:21Darperwch laddfa i’w feibion ef, am anwiredd eu tadau; rhag codi ohonynt a goresgyn y tir, a llenwi wyneb y byd â dinasoedd. º
Isaiah 41:16Nithi hwynt, a’r gwynt a’u dwg ymaith, a’r corwynt a’u gwasgar hwynt: a thi a lawenychi yn yr ARGLWYDD, yn Sanct Israel y gorfoleddi. º