Llyfr Hosea 13:16
Diffeithir Samaria, am ei bod yn anufudd i’w Duw: syrthiant ar y cleddyf: eu plant a ddryllir, a’u gwragedd beichiogion a rwygir.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
2 Kings 8:12A Hasael a ddywedodd, Paham y mae fy arglwydd yn wylo? Dywedodd yntau. Am fy mod yn gwybod y drwg a wnei di i feibion Israel: eu hamddiffynfaoedd hwynt a losgi di â thân, a’u gwŷr ‘ieuainc a leddi â’r cleddyf, a’u plant a bwyi, a’u gwragedd beichiogion a rwygi. º
2 Kings 17:6Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, yr enillodd brenin Asyria Samaria, ac y caethgludodd efe Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid. º
2 Kings 19:9A phan glybu efe am Tirhaca brenin Ethiopia, gan ddywedyd, Wele, efe a ddaeth allan i ryfela a thi; efe a anfonodd genhadau drachefn at Heseceia, gan ddy¬wedyd, º
Isaiah 7:8Canys pen Syria yw Damascus, a phen Damascus yw Resin; ac o fewn pum mlynedd a thrigain y torrir Effraim rhag bod yn bobl.
Isaiah 13:16Eu plant hefyd a ddryllir o flaen eu llygaid; eu tai a ysbeilir, a’u gwragedd a dreisir. º
Hosea 7:14Ac ni lefasant arnaf â’u calon, pan udasant ar eu gwelyau: am ŷd a melys win yr ymgasglant; ciliasant oddi wrthyf.