Llyfr Hosea 2:5
Canys eu mam hwynt a buteiniodd; gwaradwyddus y gwnaeth yr hon a’u hymddûg hwynt: canys dywedodd hi, Af ar ôl fy nghariadau, y rhai sydd yn rhoi fy mara a’m dwfr, fy ngwlân a’m llin, fy olew a’m diodydd.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
4Ac ar ei phlant ni chymeraf drugaredd; am eu bod yn blant godineb.
Cross References
Ezra 9:6Ac a ddywedais, O fy NUW, y mae arnaf gywilydd a gorchwyledd godi fy wyneb atat ti, fy Nuw; oherwydd ein hanwireddau ni a aethant yn aml dros ben, a’n camwedd a dyfodd hyd y nefoedd.
Isaiah 50:1FEL hyn y dywed yr ARGLWYDD, Pa le y mae llythyr ysgar eich mam, trwy yr hwn y gollyngais hi ymaith? neu pwy o’m dyledwyr y gwerthais chwi iddo? Wele, am eich anwireddau yr ymwerthasoch, ac am eich camweddau y gollyngwyd ymaith eich mam. º
Jeremiah 2:20Oblegid er ys talm mi a dorrais dy iau di, ac a ddrylliais dy rwymau; a thi a ddywedaist, Ni throseddaf; er hynny ti a wibiaist, gan buteinio ar bob bryn uchel, a than bob pren deiliog.
Jeremiah 3:1Hwy a ddywedant, O gyr gŵr ei wraig ymaith, a myned ohoni oddi wrtho ef, ac iddi fod yn eiddo gŵr arall, a ddychwel efe ati hi mwyach? oni lwyr halogir y tir hwnnw? ond ti a buteiniaist gyda chyfeillion lawer; eto dychwel ataf fi, medd yr ARGLWYDD.
Jeremiah 11:13Canys yn ôl rhifedi dy ddinasoedd yr oedd dy dduwiau, O Jwda, ac yn ôl rhifedi heolydd Jerwsalem y gosodasoch allorau i’r peth gwaradwyddus hwnnw, ie, allorau i fwgdarthu i Baal.
Jeremiah 44:17Ond gan wneuthur y gwnawn ni bob peth a’r a ddelo allan o’n genau, gan arogl-darthu i fren hines y nefoedd, a thywalll iddi hi ddiodydd-offrwm, megis y gwnaethom, nyni a’n tadau, ein brenhin. oedd a’n tywysogion, yn ninasoedd Jwda, ac yn heolydd Jerwsalem.: canys yna yr oeddem ni yn ddigonol o fara, ac yn dda, ac heb weled drwg. º