Llyfr Hosea 4:1
Meibion Israel, gwrandewch air yr ARGLWYDD: canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a thrigolion y wlad, am nad oes na gwirionedd, na thrugaredd na gwybodaeth o DDUW, yn y wlad.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
Cross References
1 Kings 22:19Ac efe a ddywedodd, Clyw gan hynny air yr ARGLWYDD: Gwelais yr ARGLWYDD yn eistedd ar ei orseddfa, a holl lu’r nefoedd yn sefyll yn ei ymyi, ar ei law ddeau ac ar ei law aswy. º
Isaiah 1:10Gwrandewch air yr ARGLWYDD tywysogion Sodom, clywch gyfraith ein Duw ni, pobl Gomorra.
Isaiah 3:13Yr ARGLWYDD sydd yn sefyll i ymddadlau, ac yn sefyll i farnu y bob¬loedd.
Isaiah 28:14Am hynny gwrandewch air yr ARGLWYDD, ddynion gwatwarus, llywod-isaethwyr y bobl hyn, y rhai sydd yn Jerwsalem. º
Isaiah 34:8Canys diwrnod dial yr ARGLWYDD, blwyddyn taledigaeth yn achos Seion, yw. º
Isaiah 66:5Gwrandewch air yr ARGLWYDD, y rhai a grynwch wrth ei air ef; Eich brodyr y rhai a’ch casasant, ac a’ch gyrasant ar encil er mwyn fy enw i, a ddywedasant, Gogonedder yr ARGLWYDD: eto i’ch llawenydd chwi y gwelir ef, a hwynt a waradwyddir. º