The Bible Software
Llyfr Hosea · Beibl (1620)

Llyfr Hosea 4

1Meibion Israel, gwrandewch air yr ARGLWYDD: canys y mae cwyn rhwng yr ARGLWYDD a thrigolion y wlad, am nad oes na gwirionedd, na thrugaredd na gwybodaeth o DDUW, yn y wlad.

2Trwy dyngu, a dywedyd celwydd, a lladd celain, a lladrata, a thorri priodas, y maent yn torri allan, a gwaed a gyffwrdd â gwaed.

3Am hynny y galara y wlad, ac y llesga oll sydd yn trigo ynddi, ynghyd â bwystfilod y maes, ac ehediaid y nefoedd, pysgod y môr hefyd a ddarfyddant.

4Er hynny nac ymrysoned, ac na cherydded neb ei gilydd: canys dy bobl sydd megis rhai yn ymryson â’r offeiriad.

5Am hynny ti a syrthi y dydd, a’r proffwyd hefyd a syrth gyda thi y nos, a mi a ddifethaf dy fam.

6Fy mhobl a ddifethir o eisiau gwybodaeth: am i ti ddiystyru gwybod¬aeth, minnau a’th ddiystyraf dithau, fel na byddych offeiriad i mi; ac am i ti anghofio cyfraith dŷ DDUW, minnau a anghofiaf dy blant dithau hefyd.

7Fel yr amlhasant, felly y pechasant ‘m herbyn: am hynny eu gogoniant a newidiaf yn warth.

8Bwyta y maent bechod fy mhobl, ac at eu hanwiredd hwynt y maent yn dyrchafu eu calon.

9A bydd yr un fath, bobl ac offeiriad: ac ymwelaf â hwynt am eu ffyrdd, a thalaf iddynt eu gweithredoedd.

10Bwytânt, ac nis diwellir; puteiniant, ac nid amlhant; am iddynt beidio â disgwyl wrth yr ARGLWYDD.

11Godineb, a gwin, a gwin newydd, a ddwg y galon ymaith.

12Fy mhobl a ofynnant gyngor i’w cyffion, a’u ffon a ddengys iddynt: canys ysbryd godineb a’u cyfeiliornodd hwynt, a phuteiniasant oddi wrth eu Duw.

13Ar bennau y mynyddoedd yr aberthant, ac ar y bryniau y llosgant arogl-darth, dan y dderwen, a’r boplysen, a’r llwyfen, am fod yn dda eu cysgod: am hynny y puteinia eich merched chwi, a’ch gwragedd a dorrant briodas.

14Nid ymwelaf â’ch merched pan buteiniont, nac â’ch gwragedd pan dorront briodas: am fod y rhai hyn yn ymddidoli gyda phuteiniaid, ac aberthasant gyda dihirogod; a’r bobl ni ddeallant, a dramgwyddant.

15Er i ti, Israel, buteinio, eto na pheched Jwda: nac ewch i Gilgal, nac ewch i fyny i Beth-afen; ac na thyngwch, Byw yw yr ARGLWYDD.

16Fel anner anhywaith yr anhyweithiodd Israel: yr ARGLWYDD yr awr hon a’u. portha hwynt fel oen mewn ehangder.

17Effraim a ymgysylltodd ag eilunod: gad iddo.

18Surodd eu diod hwy; gan buteinio y puteiniasant: hoff yw, Moeswch, trwy gywilydd gan ei llywodraethwyr hi.

19Y gwynt a’i rhwymodd hi yn ei hadenydd, a bydd arnynt gywilydd oherwydd eu haberthau.

← Llyfr Hosea 3Read In The App, Free →Llyfr Hosea 5 →

Study Llyfr Hosea 4

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314