Llyfr Hosea 6:3
Yna yr adnabyddwn, os dilynwn adnabod yr ARGLWYDD: ei fynediad a ddarperir fel y bore; ac efe a ddaw fel glaw atom, fel y diweddar law a’r cynnar law i’r ddaear.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Efe a’n bywha ni ar ôl deuddydd, a’r trydydd dydd y cyfyd ni i fyny, a byddwn fyw ger ei fron ef.
Cross References
Deuteronomy 32:2Fy athrawiaeth a ddefnyna fel gwlaw: fy ymadrodd a ddifera fel gwlith; fel gwlith-wlaw ar îr-wellt, ac fel cawodydd ar laswellt.
Job 29:23A hwy a ddisgwylient amdanaf fel am y glaw; ac a ledent eu genau fel am y diweddar-law.
Psalms 65:9A phob dyn a ofna, ac a fynega waith DUW: canys doeth ystyriant ei waith ef.
Proverbs 2:1Fy mab, os derbynni di fy ngeiriau, ac os cuddi fy ngorchmynion gyda thi;
Isaiah 5:6A mi a’i gosodaf hi yn ddifrod: nid ysgythrir hi, ac ni chloddir hi; ond mieri a drain a gyfyd: ac i’r cymylau y gorchmynnaf na lawiont law arni.
Isaiah 44:3Canys tywalltaf ddyfroedd ar y sychedig, a ffrydiau ar y sychdir: tywalltaf Sy Ysbryd ar dy had, a’m bendith ar dy hiliogaeth: º