The Bible Software
Llyfr Hosea · Beibl (1620)

Llyfr Hosea 6

1Deuwch, a dychwelwn at yr ARGLWYDD: canys efe a’n drylliodd, ac efe a’n hiachâ ni; etc a drawodd, ac efe a’n meddyginiaetha ni.

2Efe a’n bywha ni ar ôl deuddydd, a’r trydydd dydd y cyfyd ni i fyny, a byddwn fyw ger ei fron ef.

3Yna yr adnabyddwn, os dilynwn adnabod yr ARGLWYDD: ei fynediad a ddarperir fel y bore; ac efe a ddaw fel glaw atom, fel y diweddar law a’r cynnar law i’r ddaear.

4Beth a wnaf i ti, Effraim? beth a wnaf i ti, Jwda? eich mwynder sydd yn ymado fel cwmwl y bore, ac fel gwlith boreol.

5Am hynny y trewais hwynt trwy y proffwydi; lleddais hwynt â geiriau fy ngenau: a’th farnedigaethau sydd fel goleuni yn myned allan.

6Canys ewyllysiais drugaredd, ac nid aberth; a gwybodaeth o DDUW, yn fwy na phoethoffrymau.

7A’r rhai byn, fel dynion, a dorasant y cyfamod: yno y buant anffyddlon i’m herbyn.

8Dinas gweithredwyr anwiredd yw Gilead, wedi ei halogi gan waed.

9Ac fel y mae mintai o ladron yn disgwyl gŵr, felly y mae cynulleidfa yr offeiriaid yn lladd ar y ffordd yn gytûn: canys gwnânt ysgelerder.

10Gwelais yn nhŷ Israel beth erchyll: yno y mae godineb Effraim; halogwyd Israel.

11Gosododd hefyd gynhaeaf i tithau, Jwda, a mi yn dychwelyd caethiwed fy mhobl.

← Llyfr Hosea 5Read In The App, Free →Llyfr Hosea 7 →

Study Llyfr Hosea 6

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314