Llyfr Hosea 8:13
Yn lle ebyrth fy offrymau, cig a aberthant, ac a fwytant; yr ARGLWYDD nid yw fodlon iddynt: efe a gofia bellach eu hanwiredd, ac efe a ofwya eu pechodau; dychwelant i’r Aifft.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
12Mi a ysgrifennais iddo bethau mawrion fy nghyfraith, ac fel dieithrbeth y cyfrifwyd.
Cross References
Exodus 32:34Am hynny dos yn awr, arwain y bobl i’r lle a ddywedais wrthyt: wele, fy angel a â o’th flaen di: a’r dydd yr ymwelwyf, yr ymwelaf â hwynt am eu pechod.
1 Samuel 15:22A Samuel a ddywedodd, A yw ewyllys yr ARGLWYDD ar boethoffrymau, neu ebyrth, megis ar wrando ar lais yr ARGLWYDD? Wele, gwrando sydd well nag aberth, ac ufuddhau na braster hyrddod. º
Isaiah 1:11Beth yw lluosowgrwydd eich aberthau i mi? medd yr ARGLWYDD: llawn ydwyf o boethaberthau hyrddod, ac o fraster anifeiliaid breision; gwaed bustych hefyd, ac ŵyn, a bychod, nid ymhyfrydais ynddynt.
Jeremiah 14:10Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD wrth y bobl hyn, Fel hyn yr hoffasant hwy grwydro, ac ni ataliasant eu traed: am hynny nis myn yr ARGLWYDD hwy; yr awr hon y cofia efe eu hanwiredd hwy, ac a ymwêl â’u pechodau.
Hosea 5:6A’u defaid ac a’u gwartheg y deuant i geisio yr ARGLWYDD, ond nis cânt ef: ciliodd efe oddi wrthynt.
Hosea 7:2Ac nid ydynt yn meddwl yn eu calonnau fy mod i yn cofio eu holl ddrygioni hwynt: weithian eu gweithredoedd eu hun a’u hamgylchynodd: y maent gerbron fy wyneb.