The Bible Software
Llyfr Hosea · Beibl (1620)

Llyfr Hosea 8

1At dy safn â’r utgorn. Fel yr eryr, y daw yn erbyn tŷ yr ARGLWYDD, am. iddynt droseddu fy nghyfamod, a phechu yn erbyn fy nghyfraith.

2Israel a lefant arnaf, Fy Nuw, nyni a’th adwaenom di.

3Israel a fwriodd heibio ddaioni: y gelyn a’i herlid yntau.

4Hwy a wnaethant frenhinoedd, ac nid trwof fi; gwnaethant dywysogion, ac nis gwybûm: o’u harian a’u haur y gwnaethant iddynt eu hun ddelwau, fel y torrer hwynt ymaith.

5Samaria, dy lo a’th fwriodd heibio: fy nig a gyneuodd i’w herbyn; pa hyd ni fedrant ddilyn diniweidrwydd?

6Canys o Israel y mae; y saer a’i gwnaeth; am hynny nid yw efe DDUW: ond yn ddrylliau y bydd llo Samaria.

7Canys gwynt a heuasant, a chorwynt a fedant: corsen ni bydd iddo: y dywysen ni wna flawd: ac os gwna, dieithriaid a’i llwnc.

8Israel a lyncwyd: bellach y byddant ymysg y cenhedloedd fel dodrefnyn heb hoffter ynddo.

9Canys hwy a aethant i fyny i Asyria, yn asyn gwyllt unig iddo ei hun: Effraim a gyflogodd gariadau.

10Hefyd er iddynt gyflogi rhai ymysg y cenhedloedd, yn awr mi a’u casglaf hwynt: canys tristânt ychydig, oherwydd baich brenin y tywysogion.

11Oherwydd amlhau o Effraim allorau i bechu, allorau fydd ganddo i bechu.

12Mi a ysgrifennais iddo bethau mawrion fy nghyfraith, ac fel dieithrbeth y cyfrifwyd.

13Yn lle ebyrth fy offrymau, cig a aberthant, ac a fwytant; yr ARGLWYDD nid yw fodlon iddynt: efe a gofia bellach eu hanwiredd, ac efe a ofwya eu pechodau; dychwelant i’r Aifft.

14Canys anghofiodd Israel ei Wneuthurwr, ac a adeiladodd demlau; a Jwda a amlhaodd ddinasoedd caerog: ond myfi a anfonaf dân i’w ddinasoedd, ac efe a ysa ei balasau.

← Llyfr Hosea 7Read In The App, Free →Llyfr Hosea 9 →

Study Llyfr Hosea 8

KJVMatthew HenryJamieson-Fausset-BrownAdam ClarkeJohn WesleyJohn CalvinKeil and DelitzschScofieldFamily Bible NotesGeneva Bible Notes (1599)Reina-Valera (Español)Bíblia Portuguesa MundialLuther Bibel (Deutsch)Bible Louis Segond (Français)

All Chapters

1234567891011121314