Llyfr Hosea 8:7
Canys gwynt a heuasant, a chorwynt a fedant: corsen ni bydd iddo: y dywysen ni wna flawd: ac os gwna, dieithriaid a’i llwnc.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
8Israel a lyncwyd: bellach y byddant ymysg y cenhedloedd fel dodrefnyn heb hoffter ynddo.
Cross References
Deuteronomy 28:33Ffrwyth dy dir a’th holl lafur a fwytty pobl nid adnabuost; a byddi yn unig orthrymmedig a drylliedig bob amser:
2 Kings 13:3A digofaint yr ARGLWYDD a lidiodd yn erbyn Israel; ac efe a’u rhoddodd hwynt yn llaw Hasael brenin Syria, ac yn llaw Benhadad mab Hasael, eu holl ddyddiau hwynt. º
2 Kings 15:29Yn nyddiau Peca brenin Israel y daeth Tiglathpileser brenin Asyria, ac a enillodd Ijon, ac Abel-bethmaacha, a Janoa, Cedes hefyd, a Hasor, a Gilead, a Galilea, holl wlad Nafftali, ac a tt caethgludodd hwynt i Asyria. º
Proverbs 22:8Y neb a heuo anwiredd a fed flinder; a gwialen ei ddigofaint ef a balla.
Isaiah 17:11Y dydd y gwnei i’th blanhigyn dyfu, a’r bore y gwnei i’th had flodeuo: ond bydd y cynhaeaf yn bentwr ar ddydd llesgedd a dolur gofidus. º
Jeremiah 12:13Heuasant wenith, ond hwy a fedant ddrain; ymboenasant, ond ni thycia iddynt; a hwy a gywilyddiant am eich ffrwythydd chwi, oherwydd llid digofaint yr ARGLWYDD.