Llyfr Hosea 9:3
Ni thrigant yng ngwlad yr ARGLWYDD; ond Effraim a ddychwel i’r Aifft, ac yn Asyria y bwytânt beth aflan.
Beibl (1620)
In The King James Version
In Context
2Y llawr dyrnu na’r gwinwryf nis portha hwynt, a’r gwin newydd a’i twylla hi.
Cross References
Leviticus 18:28Fel na chwydo y wlad chwithau, pan halogoch hi, megis y chwydodd hi y genedl oedd o’ch blaen.
Leviticus 25:23¶ A’r tir ni cheir ei werthu yn llwyr: canys eiddof fi yw y tir; o herwydd dieithriaid ac alltudion ydych gyd â mi.
Deuteronomy 28:63A bydd, megis ag y llawenychodd yr Arglwydd ynoch i wneuthur daioni i chwi, ac i’ch amlhâu; felly y llawenycha yr Arglwydd ynoch i’ch dinystrio, ac i’ch difetha chwi: a diwreiddir chwi o’r tir yr wyt yn myned iddo i’w feddiannu.
Joshua 23:15Ac fel y daeth i chwi bob peth daionus a addawodd yr Arglwydd eich Duw wrthych; felly y dwg yr Arglwydd arnoch chwi bob peth drygionus, nes eich difa chwi allan o’r wlad dda yma a roddodd yr Arglwydd eich Duw i chwi.
2 Kings 17:6Yn y nawfed flwyddyn i Hosea, yr enillodd brenin Asyria Samaria, ac y caethgludodd efe Israel i Asyria, ac a’u cyfleodd hwynt yn Hala ac yn Habor, wrth afon Gosan, ac yn ninasoedd y Mediaid. º
Jeremiah 2:7Dygais chwi hefyd i wlad gnydfawr, i fwyta ei ffrwyth a’i daioni: eithr pan ddaethoch i mewn, halogasoch fy nhir i, a gwnaethoch fy etifeddiaeth i yn ffieidd-dra.